Dewch, ffyddlon rai, neséwch mewn hedd, mae yma wledd arbennig o basgedigion wedi eu trin, a gloyw win puredig. Amgylchwch heddiw’r sanctaidd fwrdd, cewch gwrdd â’ch Prynwr Iesu, a llawnder o gysuron da sydd yma i’ch croesawu. Rhag clwyfau enaid o bob rhyw gan Dduw cewch feddyginiaeth, a rhag gelynion cryfion, cas, drwy ras cewch […]