Angau du, d’wed i mi, Ble mae dy golyn di? Crist orchfygodd rym y bedd Fe drechodd uffern ddu. A dyma ‘ngobaith i, A dyma ‘ngobaith i. Pan mae’r byd yn pwyso’n drwm Paid ag anghofio hyn: Buddugoliaeth Iesu dros Y gelyn olaf un. Gwawriodd oes goleuni Crist Dynoliaeth newydd sydd; A rhyddid i’r greadigaeth […]
Arhosaf ddydd a nos, Byth bellach dan dy Groes, I’th lon fwynhau; Mi wn mai’r taliad hyn, Wnaed ar Galfaria fryn, A’m canna oll yn wyn Oddi wrth fy mai. Yn nyfnder dŵr a thân, Calfaria fydd fy nghân, Calfaria mwy: Y bryn ordeiniodd Duw Yn nhragwyddoldeb yw, I godi’r marw’n fyw Trwy farwol glwy’. […]
Anturiaf at ei orsedd fwyn, Dan eithaf tywyll nos; Ac mi orffwysaf, doed a ddêl, Ar haeddiant gwaed y groes. Mae ynddo drugareddau fil, A chariad heb ddim trai, A rhyw ffyddlondeb fel y môr At ei gystuddiol rai. Mi rof ffarwél i bob rhyw chwant – Pob pleser is y nen; Ac yr wy’n […]
Achubiaeth sy’n eiddo i’n Duw Sy’n eistedd ar orsedd nef, Ac hefyd i’r Oen: Mawl, gogoniant, diolch a chlod, Doethineb, gallu a nerth Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Amen! Ymnerthwn yn awr ynddo ef; Addolwn ein Prynwr, Cyhoeddwn ynghŷd: (Grym Mawl 2: […]
Adoramus te domine O fe’th addolwn di, Iesu Grist. (Grym Mawl 2: 105) Hawlfraint © Ateliers et Presse de Taize
Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar y cenhedloedd, Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar yr holl bobloedd. Ennyn dân yn ein calonnau, Gwrando, ac ateb ein gweddïau: Gad in weld nerth dy Ysbryd Glân Agor holl lifddorau y nefoedd, Pâr i’r utgorn seinio, ac anfon law. Tywallt lawr arnaf […]
Achubodd fi – clywodd Ef fy nghri, A’m rhoi ar Graig sydd yn uwch na mi; A rhoddodd gân yn fy nghalon i. Haleliwia! Achubodd fi. Llawenydd pur sy’n gorlifo A heddwch dwfn sy’n ddi-drai. Caf rannu ei gyfiawnder Ef – Maddeuodd Ef fy mai. Daw breichiau’r Tad i’m cofleidio, Daw’r Ysbryd Glân i’m bywhau. […]
Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw, Am hynny dewch, a llawenhewch, Can’s da yw Duw, can’s da yw Duw. Diolch Dad am newydd ddydd, A’r bendithion ar ein taith; Gwawr y bore, machlyd mwyn, Y lloer a’r sêr fynegant waith Dy […]
Arglwydd, tyrd, a llefara Di Wrth in’ geisio bara dy sanctaidd air. Planna’r gwir yn ein c’lonnau’n ddwfn, Trawsnewidia ni ar dy ddelw, Fel bod golau Crist yn llewyrchu’n glir Yn ein cariad ni, mewn gweithredoedd ffydd; Arglwydd tyrd, llwydda ynom ni Dy fwriadau Di, er D’ogoniant. Arglwydd, dysg beth yw ufudd-hau, Gostyngeiddrwydd gwir, a […]
Ŵr clwyfedig, Oen fy Nuw Gwrthodedig Un; Holl bechod dyn a llid y Tad Ar ysgwydd Iesu gwyn. Heb ‘run gair fe aeth i’r prawf Drwy y gwawd a’r loes Ildio’n llwyr i lwybr Duw Dan goron ddrain a chroes. Croes fy Iesu sy’n iachawdwriaeth Llifodd cariad ataf fi Cân fy enaid nawr, haleliwia Clod […]