logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar hanner nos yn glir y daeth

Ar hanner nos yn glir y daeth Y gân nefolaidd gynt; I daro’u tannau plygu wnaeth Angylion ar eu hynt: “Hedd trwy y byd, ewyllys da Tirionaf Frenin nef” – Y ddaear mewn distawrwydd dwys Wrandawai’r hyfryd lef. Trwy byrth y nef daw’r rhain o hyd Ar adain hedd i lawr, A nofia’u mawl o’r […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod Mae Arglwydd y Gogoniant yn dod, Daw Brenin y brenhinoedd mawr Yn geidwad i deyrnasoedd y llawr Fe ddaw â iachawdwriaeth lawn; Am hynny dathlwn, canwn fawl: I Ti, fy Nuw, boed clod Fy Nghrëwr doeth a mawr! Mor deilwng yw ein Harglwydd cu Mor addfwyn ydyw gyda ni […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024

Eiddot Ti

Pennill 1 Ger d’orsedd Di Try’r cyfan oll Mae d’ogoniant yn rhy fawr Mor uchel wyt Ond er ein mwyn ‘Sneb yn deilwng ond Ti Corws Eiddot Ti yw’r mawl Eiddot Ti yw’r mawl O dy flaen Di, plygwn ni Ar dy orsedd fry Fe’th ddyrchafwn Di Cans teyrnasu wnei am byth Pennill 2 Yr […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024

Tro dy olwg ar Iesu

Pennill 1 O, enaid, a wyt ti’n flinderog? Y llwybr yn dywyll o’th flaen? Mae goleuni yn ŵyneb y Ceidwad, A bywyd mor llawn ac mor lân Cytgan Tro dy olwg ar Iesu, Ac edrych i’w ŵyneb yn llawn; A holl bethau y byd, Fe ddiflannant i gyd Yng ngoleuni Ei gariad a’i ddawn. Pennill […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

O’n blaen mae Duw yn myned

O’n blaen mae Duw yn myned Â’i hyfryd bresenoldeb; O! ’r hyder ei addewid rydd Ac nid unig fyddwn byth. Hyd lwybrau, dan gysgodion Nid ofnwn am yfory Ar hyd bob cam, ffyddlondeb Iôr Fydd yn llewyrch ar ein ffordd O’n blaen mae Duw yn myned, Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed; Canmolwch Ef – ein […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

Sanctaidd, Sanctaidd yw yr Oen

Pennill 1 Mae’r Un a fu ac sydd ac eto’i ddod Nawr ar ei orsedd Ef, yn ddyrchafedig fry Mae’r un a ddeil ‘goriadau’r nef am byth Mae perffaith Oen ein Duw yn ddyrchafedig fry Corws Sanctaidd sanctaidd sanctaidd sanctaidd Sanctaidd yw yr Hollalluog Teilwng teilwng teilwng teilwng Teilwng yw yr Hollalluog Pennill 2 Mae’r […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

Rhof i Ti’r Gogoniant

Pennill 1 Does dim clod imi Am y gwynt dan fy mron Fy unig ymffrost Yw yn y gwaith a wnest Ti Fe lifa ‘nghalon Boed i’r cariad a ddaw Dywallt o’th flaen Di nawr Yn bersawr pêr Corws Rhof i Ti’r gogoniant Yr holl ogoniant Rhof i Ti’r gogoniant Drachefn a thrachefn Nid i […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

Ffarwel Ned Puw

Wel dyma’r bore gore i gyd Fe roed i’r byd wybodaeth Am eni’r gwaraidd Iesu gwyn I’n dwyn o’n syn gamsyniaeth; Fe ddaeth ein Brenin mawr a’n Brawd Mewn gwisg o gnawd genedig, Rhyfeddod gweled mab Duw Nȇr Ar fronnau pȇr forwynig; Rhyfeddod na dderfydd yw hon yn dragywydd, O rhoed y Dihenydd i bob […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 23, 2024

Gwêl yr adeilad

Y dirion wawr a dorrodd Ar ddynion y cyfododd Haul cyfiawnder; Ym mro a chysgod angau Disgleiriodd ei belydrau Mewn eglurder. Yn awr daeth ei oleuni i lawr Tywyllwch gorddu A orfu chwalu O flaen yr Iesu, Holl lu y fagddu fawr A ffoesant yn ddiaros Fel nos o flaen y wawr. Mewn llwydd, dring […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 23, 2024

Gwawriodd llonder dros y byd

Gwawriodd llonder dros y byd, Gwiriwyd Gair y Crëwr: Gwaredigaeth Duw a roed – Gobaith pob preswyliwr. Nid â ffanffer oddi fry, Na gogoniant grasol, Ond rhodd wylaidd cariad pur: Iesu, faban dwyfol. Sain rhyfeddod leinw’r nen Gyda chân yr engyl, Wrth i D’wysog mawr y byd ’Fochel draw mewn stabl. Dwylo gynt fu’n ffurfio’r […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 2, 2024