Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl, clyw ein cri ar ran y byd, sŵn rhyfela sy’n y gwledydd sôn am ing a thrais o hyd. O! Na welem heddwch yn teyrnasu byth. O! na chaem ni weld y dyddiau pan fo pawb yn byw’n gytûn; brawd yn caru brawd ym mhobman a phob dyn yn parchu dyn. […]
Pennill 1 Megis golau gwan cannwyll yn ein twyllwch ni bythol olau Duw ddaw trwy’r baban gwan Cytgan Emaniwel, Haleliwia, tyrd i’n hachub, Haleliwia. Haleliwia. Pennill 2 Sêr ac engyl gân tra bo’r byd mewn trwmgwsg hir; all gwreichionen fach roi y byd ar dân? Cytgan Pennill 3 Gloywai’i gwawl yn lân yn ein byw, […]
Pennill 1 Iesu’r Adda sy’n rhagori – Mab i Dduw, a Mab y Dyn, Yn yr ardd, pan demtiwyd yno, Safai’n gryf heb ildio dim. Ef sy’n cyfiawnhau’r llaweroedd Gan roi bywyd newydd in Trwy farwolaeth – symud melltith Sathrwyd Satan drwy ei rym. Cytgan Amen! Amen! Crist ein Harglwydd a’n Pen; Ef yw’r dechrau, […]
Rhoes Duw Ei Fab – Iesu oedd Hwnnw, I’m caru ddaeth A maddau ’mai. Bu farw’r Oen I brynu ’mhardwn; Bedd cwbl wag Sy’n berffaith dyst I’m Prynwr byw. Am mai byw yw Ef Af ymlaen yfory, Am mai byw yw Ef Ffoi wnaiff pob braw, Am y gwn mai Ef Sy’n dal y dyfodol, […]
Pennill 1 Pwy arall wna i’r cerrig foli? Gogoniant pwy wnaeth ddysgu’r sêr? Mae fel tae’r cread wir yn ysu i gael dweud (ond) fy llawenydd yw Corws Rhoddwn ni fil haleliwia Dyrchafwn d’enw Di Ti yn unig sydd yn deilwng (O) anrhydedd a phob clod Fy Arglwydd, fe ganaf am byth i Ti Mil […]
Beth yw melys seiniau glywaf? Clychau aur Caersalem fry. Beth yw tinc y don hoffusaf? Diolch gan y nefoel lu. Yn yr uchelderau cenwch Felys odlau cerdd yn rhydd, Nos wylofain, nos wylofain, O cydfloeddiwch, Nos wylofain, o cydfloeddiwch, Arwain wnaeth i olau dydd. Pwy sy’n gorwedd yn y preseb? Anfeidrolbeb rhyfedd iawn. Pwy all […]
Teg wawriodd boreddydd na welwyd ei ail Er cread y byd na thywyniad yr haul: Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân, Pan fo haul yn duo a daear ar dân. Y testun llawenaf i’n moliant y sydd, Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd, Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan faich, […]
Ar dymor gaeaf dyma’r wyl Sydd annwyl, annwyl in; Boed sain llawenydd ym mhob llu, Waith geni’r Iesu gwyn; Datseinwn glod a llafar don, Rhoed rhai tylodion lef, Gan gofio’r pryd y gwelwyd gwawr Eneiniog mawr y nef! Ar gyfer heddiw Maban mwyn A gaed o’r Forwyn Fair; Ac yno gweled dynol-ryw Ogoniant Duw y […]
Cydganed dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth, daeth trefn y Rhagluniaeth i’r goleuni, a chân ‘Haleliwia’ o fawl i’r Gorucha, Meseia Jwdea, heb dewi; moliannwn o lawenydd! Gwir ydyw fod Gwaredydd! Fe anwyd Ceidwad inni, sef Crist, y Brenin Iesu, cyn dydd, cyn dydd ym Methlem yn ddi-gudd y caed Gwaredydd ar foreuddydd! O wele ddedwydd ddydd! […]
Pennill 1 Iesu’th dosturi yw f’unig ble S’dim amddiffyniad, mae ‘meiau’n rhy fawr Y gorau a wnes i a’th glwyfodd ar groes Iesu’th dosturi yw f’unig ble Pennill 2 Iesu’th dosturi yw f’ymffrost i Y rhinwedd a hawliaf a sail ‘ngobaith i Lle bynnag rwy’n brin dyna yw f’angen i Iesu’th dosturi yw f’ymffrost i […]