logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhof i Ti’r Gogoniant

Pennill 1 Does dim clod imi Am y gwynt dan fy mron Fy unig ymffrost Yw yn y gwaith a wnest Ti Fe lifa ‘nghalon Boed i’r cariad a ddaw Dywallt o’th flaen Di nawr Yn bersawr pêr Corws Rhof i Ti’r gogoniant Yr holl ogoniant Rhof i Ti’r gogoniant Drachefn a thrachefn Nid i […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

Ffarwel Ned Puw

Wel dyma’r bore gore i gyd Fe roed i’r byd wybodaeth Am eni’r gwaraidd Iesu gwyn I’n dwyn o’n syn gamsyniaeth; Fe ddaeth ein Brenin mawr a’n Brawd Mewn gwisg o gnawd genedig, Rhyfeddod gweled mab Duw Nȇr Ar fronnau pȇr forwynig; Rhyfeddod na dderfydd yw hon yn dragywydd, O rhoed y Dihenydd i bob […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 23, 2024

Gwêl yr adeilad

Y dirion wawr a dorrodd Ar ddynion y cyfododd Haul cyfiawnder; Ym mro a chysgod angau Disgleiriodd ei belydrau Mewn eglurder. Yn awr daeth ei oleuni i lawr Tywyllwch gorddu A orfu chwalu O flaen yr Iesu, Holl lu y fagddu fawr A ffoesant yn ddiaros Fel nos o flaen y wawr. Mewn llwydd, dring […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 23, 2024

Gwawriodd llonder dros y byd

Gwawriodd llonder dros y byd, Gwiriwyd Gair y Crëwr: Gwaredigaeth Duw a roed – Gobaith pob preswyliwr. Nid â ffanffer oddi fry, Na gogoniant grasol, Ond rhodd wylaidd cariad pur: Iesu, faban dwyfol. Sain rhyfeddod leinw’r nen Gyda chân yr engyl, Wrth i D’wysog mawr y byd ’Fochel draw mewn stabl. Dwylo gynt fu’n ffurfio’r […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 2, 2024

Ceisiwn dy deyrnas

Ceisiwn dy Deyrnas yn ein byw a’n gwaith gan wir ddyheu am weld dy nef yn ffaith. Llewyrcha nes gwêl pawb dy olau cry- trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni! Yn y dechreuad, creaist bopeth sy’ Diwylliant, masnach, celfyddydau lu Gwna’n gwaith yn gyfrwng i’th gynlluniau di – trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni! Bydd yn y […]

  • Rhys Llwyd,
  • October 2, 2024

Mawl fo i’r Arglwydd, sy’n Frenin gogoniant a mawredd

Mawl fo i’r Arglwydd, sy’n Frenin gogoniant a mawredd: clod i’r Goruchaf, a ddyry i’m henaid orfoledd: tyred â’th gân, salmau, telynau yn lân, seinier ei fawl yn ddiddiwedd. Mawl fo i’r Arglwydd, Penllywydd rhyfeddol pedryfan: noddfa dragwyddol ei adain sydd drosot yn llydan: cadarn yw’r Iôr, ynddo i’th gynnal mae stôr, amlwg i’th olwg […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Iesu, cyfaill f’enaid i

Iesu, cyfaill f’enaid i, gad im ffoi i’th fynwes gref tra bo’r tonnau’n codi’n lli a’r ystorm yn rhwygo’r nef; cudd fi, Geidwad, oni ddaw terfyn y tymhestloedd maith, dwg fi’n iach i’r hafan draw, derbyn fi ar ben y daith. Noddfa arall nid oes un, wrthyt glŷn fy enaid gwan; paid â’m gadael, bydd […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion

Gweddi’r Pererin Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon, cyfeiria fi at loches y fforddolion lle byddi di, yn disgwyl im nesáu. Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb wrth geisio’r ffordd i fywyd o ffyddlondeb; trwy niwl fy myd, synhwyro’th bresenoldeb a theimlo’r llaw, sy’n […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Trown atat Dduw ein Tad mewn gweddi daer

Gweddi dros Ffoaduriaid Trown atat Dduw ein Tad mewn gweddi daer wrth gofio cur pob un sy’n frawd a chwaer na wêl ddyfodol mwy o fewn eu gwlad a’u nod yw ffoi o ormes trais a brad. Ac atom dônt, yn drist a llwm eu stad yn atgof byw o Grist ar ffo o’i wlad. […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd

Emyn y Grawys Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd D’unig Fab i’r anial maith; yno dysgodd i ymddiried yn Dy ras cyn dechrau’i waith. Gras Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Deugain niwrnod o ymprydio, deugain nos mewn gwewyr llym, i weddnewid trwy dreialon wendid dyn yn ddwyfol rym. Grym Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Arwain ninnau […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024