Pa bryd y cedwi’r bobol, drugarog Dduw, pa bryd? Nid mawrion, heb y miloedd, nid beilchion, ond y byd: blodau dy galon yw’r rhai hyn; gânt hwy ddiflannu megis chwyn heb weled gwawr o obaith gwyn? Duw gadwo’r bobol! Gaiff trosedd fagu trosedd a’r cryf gryfhau o hyd? A fynni di i lafur fyth gynnal […]