Rwy’n dyheu Arglwydd Dduw Amdanat ti, sychedu rwyf fy Nuw. Fe gusanaf d’wyneb di. Ac wrth it wrando fy nghri, Profaf dy gariad di, Derbyn di ’moliant i, Derbyn di ’mywyd i. Rwy’n dyheu Arglwydd Dduw Amdanat ti, sychedu rwyf fy Nuw. Fe ymgrymaf o’th flaen di. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Lord, I’ll seek after […]
Ti biau ’nghalon i, D’eiddo di yw hi. Pura hi, O Dduw, Gwna hi’n galon driw. Ti yw’r crochenydd, A finnau’n glai, Mowldia fi, rho i mi Galon lân ddi-fai. Eddie Espinosa (Change my heart O God), cyf. Nest Ifans © Mercy Publishing/Thankyou Music 1982. Gwein. gan Copycare (Grym Mawl 1: 19)
Ti yw y Brenin mawr, Y bywiol Air; Arglwydd y cread crwn, Ti yw yr un. Molaf d’enw di, Molaf d’enw di. Ti’r hollalluog Dduw, Rhyfeddol Fab; Cynghorwr, bythol fyw, Ti yw yr un. Molaf d’enw di, Molaf d’enw di. Ti yw Tywysog Hedd, Emaniwel; Y Tad tragwyddol wyt, Ti yw yr un. […]