Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni yn rhan o deulu dinas Duw; croesawyd ni i gorlan Crist, ac ef yw’n Bugail da a’n llyw. Ar ddydd ein bedydd galwyd ni yn blant y Tad a’i gariad ef, aelodau byw am byth i Grist ac etifeddion teyrnas nef. Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni i gefnu […]
Arglwydd Iesu Grist, daethost atom ni, un wyt ti â ni, blentyn Mair; ti sy’n glanhau’n pechodau ni, hael yw dy ddoniau da, di-ri’; Iesu, o gariad molwn di, Arglwydd byw. Arglwydd Iesu Grist, heddiw a phob dydd dysg in weddi ffydd, ti, Fab Duw; dyma d’orchymyn di i ni, “Gwnewch hyn er cof amdanaf […]
Clod i enw Iesu, plygwn iddo nawr, “Brenin y gogoniant” yw ein hanthem fawr; i’w gyhoeddi’n Arglwydd codwn lawen lef, cyn bod byd nac amser Gair ein Duw oedd ef. Trwy ei Air y crewyd daear faith a nef, mintai yr angylion a’i holl luoedd ef; pob rhyw orsedd gadarn, sêr yr wybren fry, gosgordd […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. Y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. […]
Rhoddwn glod i’th enw tirion, Arglwydd mawr nef a llawr, derbyn fawl dy weision. Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth llawenhawn, ynddi cawn hyfryd etifeddiaeth. Yn dy air yn iaith ein tadau rhoist i ni uchel fri, trysor uwch trysorau. Mae dy air yn llusern olau ar ein taith yn dy waith: dengys y ffordd […]
Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu […]