Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn, pwy ŵyr ei lawn derfynau? Ni chenfydd llygad cerwb craff na seraff ei fesurau. Mae hyd a lled ei gariad ef uwch nef y nef yn llifo, a dyfnach yw na llygredd dyn, heb drai na therfyn arno. Mae’r hyd a’r lled a’r dyfnder maith mewn perffaith gydweithrediad i’w […]
Mae’r gwaed a redodd ar y groes o oes i oes i’w gofio; rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano. Prif destun holl ganiadau’r nef yw “Iddo ef” a’i haeddiant; a dyna sain telynau glân ar uchaf gân gogoniant. Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen a’i boen wrth achub enaid yn seinio’n […]
Nef yw i’m henaid ymhob man pan brofwyf Iesu mawr yn rhan; ei weled ef â golwg ffydd dry’r dywyll nos yn olau ddydd. Mwynhad o’i ras maddeuol mawr, blaen-brawf o’r nef yw yma nawr; a darllen f’enw ar ei fron sy’n nefoedd ar y ddaear hon. Ac er na welaf ond o ran ac […]
Pa fodd y meiddiaf yn fy oes Dristâu na grwgnach dan y groes, A minnau’n gwybod am y fraint Mai’r groes yw coron pawb o’r saint? Mae dirmyg Crist yn well i mi Na holl drysorau’r byd a’i fri; Ei wawd fel sain berseiniol sydd, A’i groes yn fywyd imi fydd. Nid yw blinderau’r saint […]