Fy ngorchwyl yn y byd yw gogoneddu Duw a gwylio dros fy enaid drud yn ddiwyd tra bwyf byw. Fe’m galwyd gan fy Nuw i wasanaethu f’oes; boed im ymroi i’r gwaith, a byw i’r Gŵr fu ar y groes. Rho nerth, O Dduw, bob dydd i rodio ger dy fron, i ddyfal ddilyn llwybrau’r […]
Iesu tirion, gwêl yn awr blentyn bach yn plygu i lawr: wrth fy ngwendid trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da. Carwn fod yn eiddot ti; Iesu grasol, derbyn fi; gad i blentyn bach gael lle, drwy dy ras, yn nheyrnas ne’. Carwn fod fel ti dy hun, meddu calon ar dy lun; addfwyn, tirion iawn […]
O gwawria, ddydd ein Duw, oleuni pur y nef; er mwyn dy weld ‘rwy’n byw gan godi nawr fy llef; Oen addfwyn Duw, dy gariad di ddisgleirio ar fy enaid i. O gwawria, ddydd ein Duw: y nos a bery’n hir; ochneidiau’n calon clyw, oherwydd drygau’r tir; O Seren Ddydd, nesâ yn awr, O Haul […]