Dyma iachawdwriaeth hyfryd wedi ei threfnu gan fy Nuw, ffordd i gadw dyn colledig, balm i wella dynol-ryw: dyma ddigon i un euog fel myfi. Wele foroedd o fendithion, O am brofi eu nefol flas: ni bydd diwedd byth ar lawnder iachawdwriaeth dwyfol ras; dyma ddigon, gorfoledda f’enaid mwy. WILLIAM JONES, 1784-1847 (Caneuon Ffydd 182)