Fel fflam dân, mae y cariad cyntaf Yn llosgi yn fy nghalon i. Fe daniodd ef fflam ei gariad ynof, Ac ‘rwyf am iddi losgi’n gry’. Ie, yn y nos ‘rwyf am ganu mawl i ti, Ac yn y bore fe geisiaf d’wyneb di. ‘Rwy’n un o’th blant ac fe ddawnsiaf o’th flaen di, Fe […]
Fy Iesu, fy Arglwydd, ‘Dwi d’angen di yn fy mywyd i. Does undyn yn debyg; Hiraethu wnaf am dy gariad di. O! Iesu, O! Iesu, ‘Does cariad tebyg i dy gariad di. O! Iesu, fy Iesu, Derbyn yn rhodd fy nghalon i – Fe’i rhoddaf i ti. Rwy’n chwilio, rwy’n ceisio, Gwna ynof beth a […]
Fy Nhad, dy gariad di A dalodd drosof fi, I mi, yr euog un Fynd yn rhydd! Rhyfeddod nef, o’r fath gariad, Ei fywyd Ef drosof fi. O gariad rhad – marw yn fy lle, I mi gael byw, i mi gael byw. Yr Un ar groes o bren, Fab Duw, wrthodwyd. Ond o, ei […]
Ger dy fron, yn dy gôl, Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan. Closio’n nes, closio’n agos iawn. Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld. Ger dy fron, yn dy gôl, Dyma’r lle dw’i angen bod. Ger dy fron, law yn llaw, Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’ Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind. […]
Golau haul, a sêr a lleuad, popeth da a hardd ei lun, rhyfeddodau mawr y cread, dyna roddion Duw ei hun. Clod i’r Arglwydd, clod i’r Arglwydd, am bob rhodd i’n cadw’n fyw, O moliannwn a chydganwn am mai cariad ydyw Duw. Ffurf a lliw y coed a’r blodau, ffrwythau’r ddaear i bob un, holl […]
Gorlifa, Dy gariad pur tuag ataf fi; Gorlifa, Er na haeddais ddim o’th law. Wrth i mi’th geisio di, Datguddia d’hun i mi, fy Nhad. Wrth i mi’th geisio di, Datguddia d’hun i mi, fy Nhad. Di-atal, Ydyw llif dy gariad ataf fi; Di-atal, Er na haeddais ddim o’th law. Wrth i mi’th geisio di, […]
Gras tu hwnt i’m deall i, Yn rhad a helaeth er fy mai Alwodd fi ers cyn i’m fod I roi i Ti y mawl a’r clod. Gras rhyfeddol, dwfn a glân Welodd ddyfnder f’angen i, Yn derbyn baich fy mhechod i A’m gwisgo â’th gyfiawnder di. Gras, A dalodd y pris i’m dwyn i […]
O am weld y wawr ar y t’wyllaf ddydd; Crist ar ei ffordd i Galfari. Barnwyd gan y byd Yna’i guro’n friw A’i roi ar groes o bren, O’r fath rym – grym y Groes Oen ein Duw’n diodde loes. Dig y nef arno ef, I’n gael maddeuant wrth ei groes. O am weld y […]
Gweld dy gariad anorchfygol, Gweld dy chwerw angau loes, Gweld dy ofal maith diflino Di amdanaf drwy fy oes, Sydd yn dofi Grym fy nwydau cryfa’u rhyw. O! na welwn ddydd yn gwawrio – Bore tawel hyfryd iawn, Haul yn codi heb un cwmwl, Felly’n machlud y prynhawn; Un dïwrnod Golau eglur boed fy oes. […]
Cariad Duw (Tôn: Cymer ein calonnau, 75 Caniedydd yr Ifanc) Gwelwn ffrwyth dy gariad tyner di, ein Tad, yn y lliwiau cywrain sydd yn llonni’n gwlad; Ti sy’n dwyn cyfaredd machlud ar ei awr, Ti sy’n cynnau’r llusern sy’n arwyddo’r wawr; gelwi y tymhorau, deuant yn eu pryd; d’eiddo Di yw’r cynllun sy’n rhoi bod […]