Eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd y ddaear i gyd, a’r cyfan ag sydd yn y byd i gyd. Codwch eich pennau, O byrth, codwch eich pennau, i Frenin y gogoniant gael dod i mewn, i Frenin y gogoniant ddod i mewn. Pwy yw y Brenin, pwy yw y Brenin? Arglwydd y […]
Ein Tad wyt ti, O uchel Iôr, yr hwn a greodd dir a môr, tydi a’n creaist ar dy lun i’th wasanaethu di dy hun: O dysg in fyw, er mwyn dy rodd, yn dangnefeddwyr wrth dy fodd. Rhag in dristáu dy Ysbryd di, a throi yn wae ein daear ni; rhag ymffrost mawrion wŷr […]
Enaid gwan, paham yr ofni? Cariad yw meddwl Duw, cofia’i holl ddaioni. Pam yr ofni’r cwmwl weithian? Mae efe yn ei le yn rheoli’r cyfan. Os yw’n gwisgo y blodeuyn wywa’n llwyr gyda’r hwyr, oni chofia’i blentyn? Duw a ŵyr dy holl bryderon: agos yw dynol-ryw beunydd at ei galon. Er dy fwyn ei Fab […]
DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, PAWB: Baner cariad drosof fi roes Ef. DYNION: Eiddof fi f’anwylyd ac yntau fi, MERCHED: Eiddof fi f’anwylyd ac […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fe roddwyd mab – Rhyfeddol ydyw Ef; Fe roddwyd mab – Cynghorwr dae’r a nef; Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. (Geiriau eraill ar yr un dôn – ‘Dros Gymru’n Gwlad’ – Lewis Valentine) anad. cyf. Arfon […]
Fe’m derbyniwyd, maddeuwyd i mi, Fe’m cofleidiwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Fe’m derbyniwyd, heb gondemniad, Do fe’m carwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Nid oes ofn na braw wrth im nesáu At Iachawdwr a Chrëwr y byd; Gyda llawen hedd fe godaf lef I’th foli fy Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies […]
Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Boed y gân yn felys sain yn dy glyw. Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Par im fod yn felys sain […]
Fel yr hydd a fref am ddyfroedd, felly mae fy enaid i yn dyheu am fod yn agos er mwyn profi o’th gwmni di. Ti dy hun yw fy nerth a’m tŵr, a chyda thi, ‘rwyf finnau’n siwr mai tydi yw serch fy nghalon, ac O Dduw, addolaf di. Gwell wyt ti nag aur ac […]
Felly carodd Duw wrthrychau anhawddgara’ erioed a fu, felly carodd, fel y rhoddodd annwyl Fab ei fynwes gu; nid arbedodd, ond traddododd ef dros ein pechodau i gyd: taro’r cyfaill, arbed gelyn, “Felly carodd Duw y byd.” Felly carodd, ond ni ddichon holl angylion nef y nef draethu, i oesoedd tragwyddoldeb, led a hyd ei […]