Goleuni y Byd A greodd y wawr, A’r sêr sydd mewn oriel O’i wyrthiol waith mawr. Pob planed sy’n troi, drwy’i Air maent yn bod, I ddangos ei fawredd a chanu ei glod. Dewch, dewch bobl y byd Gwelwch oleuni ein Duw, Clod, clod, rhowch iddo Ef Credwch yn wir, credwch drwy ffydd Yn ei […]
Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]
Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]
Iesu yw’r Iôr! – y gri sy’n atsain drwy y cread, Disglair Ei rym, tragwyddol Air, ein Craig. Gwir Fab ein Duw, sy’n llenwi’r nefoedd â’i ogoniant, Sy’n ein gwahodd i brofi’r Bara byw. Iesu yw’r Iôr – a’i lais sy’n cynnal y planedau, Ond rhoes o’r neilltu goron nef o’i ras. Iesu y dyn, […]
Doethineb perffaith Duw y Tad Ddatguddir drwy’r bydysawd maith. Pob peth a grewyd gan Ei lais A gaiff ei gynnal gan E’n barhaus. Fe ŵyr gyfrinach yr holl sêr, A thrai a llanw’r moroedd mawr; Gyrra’r planedau ar eu taith A thry y ddaear i wneud ei gwaith. Doethineb anghymharol Duw A lywia lwybrau dynol […]