Breuddwydion oes Ymgasgla nawr; Gweledigaeth ddaw I’r sanctaidd fan. Sanctaidd fan, rwy’n sefyll ar Sanctaidd fan, A’m cydymaith i yw Ceidwad byd. Llysg eirias dân Heb ddiffodd byth; Rwy’n sefyll nawr Mewn Sanctiadd fan. Datguddiwyd Duw I feidrol ddyn; Dinoetha’th draed Dyma Sanctaidd fan. Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury, This is the place (Holy Ground): […]
Dro ar ôl tro Atat dof yn ôl; Cofio’r cariad cyntaf. Dro ar ôl tro Bywyd roist i mi Fel gwlith yn y bore. Trugarog, llawn gras Araf i ddigio; Pob dieithryn, o Dduw, Sy’n profi dy groeso. Dro ar ôl tro, Dro ar ôl tro. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Time and again: Caroline Bonnett, […]
Cael bod yn dy gwmni, Cael eisedd i lawr, A phrofi dy gariad O’m cwmpas yn awr. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. A’m pen ar dy ddwyfron Heb gynnwrf na phoen; Pob eiliad yn werthfawr Yng nghwmni yr Oen. Caf oedi’n […]
I ti, o Dad, fe roddwn ein clod, Ti yw ein craig, O! ein Duw. Na foed i ni fyth gefnu arnat, Na foed i’r gelyn fyth ein gorchfygu ni. Byth ni ddiffygia y sawl A bwysa mewn ffydd ’not ti. Mae’n llygaid ni arnat ti, O! Dduw. Castella, gwarchoda, Noddfa wyt i ni. I […]
Trosom ni, gwaedaist ti. Tro’n calonnau ni at eraill, Trwy dy gariad di: Clwyfwyd rhai gan drais a geiriau, Rho dy ras yn lli. Tro’n calonnau ni ’wrth ddicter At dy heddwch pur: Wedi gwaedu, buost farw Er mwyn difa cur. Tro galonnau’r cenedlaethau Fel yr unem ni Yn bartneriaid yn dy Deyrnas Wrth in […]
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]
Ger dy fron plygwn lawr, D’wyneb di geisiwn nawr. Down o’th flaen, Frenin mawr Ger dy fron, plygwn lawr. Fe gyffeswn ni Dy Arglwyddiaeth di; Yn d’oleuni disglair di Plygwn lawr yma nawr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We bow down, Viola Grafstrom Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan […]
Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri; Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri. O chwifiwn faner tegwch uwchben y gwledydd. A tharo drymiau hedd ymysg cenhedloedd. Fe glywir sain trefn newydd yn dynesu. Cariad Duw lifa ’gylch y byd gan ddwyn rhyddid! O cydiwn ddwylo’n gilydd ar draws […]
Gan gredu dy addewid ein Duw, Gweddïwn ni a phlygwn i ti, ‘Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad.’ Wrth edrych ar d’addewid yn awr Gadawn holl ffyrdd drygionus y llawr; Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad yn awr. Anfon ddiwygiad, cyffwrdd fi. Mor aflan yw ’ngwefusau hy’; Ond […]
Wedi dweud Amen A’r gân yn dod i ben, Dof o’th flaen heb ddim, Gan ddymuno rhoi, Rhywbeth gwell na sioe, Rhodd sy’n costio im. Rhof iti fwy na fy nghân, Ni all cân ynddi’ hun Fyth fod yn ddigon i Ti. Gweli yn ddwfwn o’m mewn, Dan y wyneb mae’r gwir, Gweli fy nghalon […]