Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn; mae iachawdwriaeth barod yn yr Iawn; mae’r ddeddf o dan ei choron, cyfiawnder yn dweud, “Digon,” a’r Tad yn gweiddi, “Bodlon” yn yr Iawn; a “Diolch byth,” medd Seion, am yr Iawn. Yn awr, hen deulu’r gollfarn, llawenhawn; mae’n cymorth ar Un cadarn, llawenhawn: mae galwad heddiw […]
Myfi’r pechadur penna’, fel yr wyf, wynebaf i Galfaria fel yr wyf; nid oes o fewn yr hollfyd ond hwn i gadw bywyd; ynghanol môr o adfyd, fel yr wyf, mi ganaf gân f’Anwylyd fel yr wyf. Mae’r Oen fu ar Galfaria wrth fy modd, Efengyl a’i thrysorau wrth fy modd: mae llwybrau ei orchmynion […]