O Iesu croeshoeliedig, Gwaredwr dynol-ryw, ti yw ein hunig obaith tra bôm ar dir y byw; dan feichiau o ofalon sy’n gwneud ein bron yn brudd mae d’enw, llawn diddanwch, yn troi ein nos yn ddydd. O Iesu croeshoeliedig, boed mawl i’th enw byth, doed dynion i’th foliannu rifedi’r bore wlith; aed sôn ymhell ac […]
Wele wrth y drws yn curo, Iesu, tegwch nef a llawr; clyw ei lais ac agor iddo, paid ag oedi funud awr; agor iddo, mae ei ruddiau fel y wawr. Parod yw i wneud ei gartref yn y galon euog, ddu a’i phrydferthu â grasusau, gwerthfawr ddoniau’r nefoedd fry; agor iddo, anghymharol Iesu cu. O […]