Iesu, yr enw uchaf sydd, Yr Un sy ’run o hyd, Gan godi’n dwylo fry addolwn di; Tyrd, yng ngrym dy Ysbryd Glân, Ymwêl â’r tafod tân, Ac yna gwêl pob un Ti yw’r Emaniwel. Emaniwel, Emaniwel, Emaniwel, mae Duw gyda ni. Cyfieithiad Awdurdodedig : Arfon Jones, (Jesus, the Name above all names): Hilary Davies […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]
Iôr anfeidrol, yn dy gwmni daw gorfoledd imi’n llawn, ymollyngaf yn dy gariad ac ymgollaf yn dy ddawn; dy gadernid sy’n fy nghynnal, mae dy ddoniau yn ddi-ri’, cyfoeth ydwyt heb ddim terfyn, mae cyflawnder ynot ti. Iôr anfeidrol, yn dy gwmni mae fy nos yn troi yn ddydd, mae rhyfeddod dy oleuni heddiw yn […]
PENNILL 1: Yn y twyllwch heb oleuni A heb obaith oeddem ni Nes y rhedaist ti o’r nefoedd  thrugaredd yn dy wedd (Cyf)lawni’r gyfraith a’r proffwydi At yr wyryf daeth y Gair Dod o orsedd y gogoniant Lawr i grud oedd yn y llwch CYTGAN: Clod i’r Tad a chlod i’r Mab Clod i’r […]
Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear, edrych ar y maes, y byd: byd a greaist, gofiaist, geraist, brynaist yn yr aberth drud; anfon, Arglwydd, weithwyr i’r cynhaeaf mawr. Ti, a roddodd air y deyrnas, gair y bywyd, gair dy ras, rho dy fendith ar yr heuwr, llwydda law dy waelaf was: arddel, Arglwydd, weithwyr y […]
Jehofa Jire, Duw sy’n rhoi, Jehofa Rophe, Duw’n iacháu; Jehofa M’cedesh, Duw sy’n gwneud yn lân, Jehofa Nisi, Duw yw fy maner. Jehofa Rohi, Duw fy mugail Jehofa Shalom, Duw hedd, Jehofa Tsidcenw, Duw cyfiawnder, Jehofa Shama, Duw sy’n bob man. Cyfieithiad Awdurdodedig: Delyth Wyn, Jehovah Jireh, God will provide (Hebrew names for God): Ian Smale […]
Jubilate, jubilate, canu cân o foliant wnawn i’r Arglwydd, jubilate, jubilate, gwaeddwn gyda’n gilydd, molwn ef; dewch i mewn i’w byrth â diolch, i’w gynteddau awn dan ganu, jubilate, jubilate, jubilate Deo. SALM 100: 1, 2, 4, 5 addas. FRED DUNN, 1908-79, cyf. NEST IFANS Hawlfraint © 1977 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75, Eastbourne […]
Kyrie eleison, Kyrie eleison, Kyrie eleison. Trugarha wrthym, trugarha wrthym, trugarha wrthym. O ein Duw LITWRGI EGLWYS UNIONGRED RWSIA cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 47)
Laudate omnes gentes, laudate Dominum; laudate omnes gentes, laudate Dominum. Canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr; canmolwch enw’r Arglwydd, holl bobloedd daear lawr. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 59)