Melys ydyw cywair ein telynau glân, am fod oriau bywyd oll yn llawn o gân; nid oes gan un plentyn hawl i fod yn drist yn y fintai ffyddlon sydd yn dilyn Crist. Hosanna! pêr Hosanna! dyrchafwn lawen lef: câr Iesu gân y galon lân, Hosanna iddo ef! Hosanna! pêr Hosanna! Hosanna! pêr […]
O Dad fe’th garwn, Addolwn, gogoneddwn, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd. Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd. lesu, fe’th garwn … (ayb.) Ysbryd, fe’th garwn…(ayb.) Donna Adkins, Father we love you, cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun Hawlfraint © Maranatha! Music/ Word Music (UK) 1976, 1981 Gwein. gan […]
O! dysg im, dirion Dad, Fy ngweddi fach a’m cân; Gwna fi yn well o ddydd i ddydd Dan rin dy fendith lân. Dy blentyn carwn fod, O! gwrando ar fy nghri; Dan wên yr haul, yn niwl y nos, Bydd di yn Dad i mi. O! rho yn awr i mi Dy fendith lawn […]
Pwy all beidio canu moliant iddo ef? Y mae Brenin Seion wedi dod i’r dref. Moliant, moliant, rhaid i blant roi moliant, moliant, moliant iddo ef, moliant iddo ef, moliant iddo ef. Taenu wnawn ein gwisgoedd gorau ar y ffyrdd, taflwn ar ei lwybrau gangau’r palmwydd gwyrdd. Ar ei ebol asyn O mor fwyn y […]
Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy a wnaeth y tywydd braf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y glaw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy wnaeth fôr sy’n ‘mestyn draw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y byd? Neb […]
Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma’r ffordd i fyw, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Un: Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Dau: Paid addoli pethau, Paid cael duwiau eraill, Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’ Dywedodd […]