Ni welodd llygad dyn erioed, ni chlywodd clust o dan y rhod am neb cyffelyb iddo ef: O Rosyn Saron hardd ei liw: pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw? Efe yw bywyd nef y nef. O f’enaid, edrych arno nawr, yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr; yn holl ogoniant dŵr a thir; nid oes, ni […]
O! llefara’ addfwyn Iesu, mae dy eiriau fel y gwin, oll yn dwyn i mewn dangnefedd ag sydd o anfeidrol rin; mae holl leisiau’r greadigaeth, holl ddeniadau cnawd a byd, wrth dy lais hyfrytaf, tawel yn distewi a mynd yn fud. Ni all holl hyfrydwch natur, a’i melystra penna’ i maes, fyth gymharu â lleferydd […]
Iesu, ti yw ffynnon bywyd, bywyd dedwydd i barhau; pob rhyw gysur is y nefoedd ynot ti dy hun y mae: ni all croes na gwae na chystudd wneuthur niwed iddynt hwy gafodd nerth i wneud eu noddfa yn dy ddwyfol, farwol glwy’. Dring, fy enaid, i’th orffwysfa uwch y gwynt tymhestlog, oer, maes o […]
Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu, boed clod i’th enw byth, boed dynion yn dy foli fel rhif y bore wlith; O na bai gwellt y ddaear oll yn delynau aur i ganu i’r hwn a anwyd ym Methlem gynt o Fair. O Iesu, pwy all beidio â’th ganmol ddydd a nos? A phwy all […]
Angylion doent yn gyson, rifedi gwlith y wawr, rhoent eu coronau euraid o flaen y fainc i lawr, a chanent eu telynau ynghyd â’r saint yn un: fyth, fyth ni chanant ddigon am Dduwdod yn y dyn. Fyth, fyth, am Dduwdod yn y dyn, fyth, fyth ni chanant ddigon am Dduwdod yn y dyn. O […]
Mae’r Iesu’n fwy na’i roddion, mae ef yn fwy na’i ras, yn fwy na’i holl weithredoedd o fewn ac o’r tu faes; pob ffydd a dawn a phurdeb, mi lefa’ amdanynt hwy, ond arno’i hun yn wastad edrycha’ i’n llawer mwy. Gweld ŵyneb fy Anwylyd wna i’m henaid lawenhau drwy’r cwbwl ges i eto neu […]
Iesu, nid oes terfyn arnat, mae cyflawnder maith dy ras yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn ganwaith nag yw ‘mhechod cas: fyth yn annwyl meibion dynion mwy a’th gâr. Mae angylion yn cael bywyd yn dy ddwyfol nefol hedd, ac yn sugno’u holl bleserau oddi wrth olwg ar dy wedd; byd o heddwch yw cael […]
Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon, ‘rwyt ti’n llawer mwy na’r byd; mwy trysorau sy’n dy enw na thrysorau’r India i gyd: oll yn gyfan ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw. Y mae gwedd dy ŵyneb grasol yn rhagori llawer iawn ar bob peth a welodd llygad ar hyd ŵyneb daear lawn: Rhosyn Saron, ti yw tegwch […]
Os yw tegwch d’ŵyneb yma yn rhoi myrdd i’th garu nawr, beth a wna dy degwch hyfryd yna’n nhragwyddoldeb mawr? Nef y nefoedd a’th ryfedda fyth heb drai. Pa fath uchder fydd i’m cariad, pa fath syndod y pryd hyn, pryd y gwelwyf dy ogoniant perffaith, llawn ar Seion fryn? Anfeidroldeb o bob tegwch maith […]
O tyred, Iôr tragwyddol, mae ynot ti dy hun fwy moroedd o drugaredd nag a feddyliodd dyn: os deui at bechadur, a’i godi ef i’r lan, ei galon gaiff, a’i dafod, dy ganmol yn y man. Gwaredu’r saint rhag uffern a phechod drwg ei ryw, o safn y bedd ac angau, a’u dwyn i fynwes […]