Ein Tad wyt ti, O uchel Iôr, yr hwn a greodd dir a môr, tydi a’n creaist ar dy lun i’th wasanaethu di dy hun: O dysg in fyw, er mwyn dy rodd, yn dangnefeddwyr wrth dy fodd. Rhag in dristáu dy Ysbryd di, a throi yn wae ein daear ni; rhag ymffrost mawrion wŷr […]
Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr am roi bara i’n cadw ni’n fyw; mae rhoddion yr Arglwydd o’n cwmpas yn stôr, rhoddwn ddiolch i’r Arglwydd ein Duw, ein Duw, rhown ddiolch i’r Arglwydd ein Duw. Efe roddodd heulwen a glaw yn ei bryd, ac aeddfedodd y dolydd a’r coed; cawn gasglu eleni holl […]
Duw a wnaeth y byd, y gwynt a’r storm a’r lli, ond nid yw e’n rhy fawr i’n caru ni. Duw a wnaeth y sêr sy’n sgleinio acw fry, ond nid yw e’n rhy bell i’n caru ni. Duw a ddaeth un tro i’w fyd, daeth yma’n fyw, a dangos wnaeth i ni mai cariad […]
Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy a wnaeth y tywydd braf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y glaw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy wnaeth fôr sy’n ‘mestyn draw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y byd? Neb […]
Pan rwystrir ni gan bethau’r llawr i weled ei ogoniant mawr, gwyn fyd y pur o galon sydd yn gweled Duw drwy lygaid ffydd. Pan welir dynion balch eu bryd yn ceisio ennill yr holl fyd, gwyn fyd yr addfwyn, meddai ef, sy’n etifeddion daer a nef. Pan welir chwalu teulu’r Tad gan ryfel gyda’i […]
Ti, Arglwydd, a greodd y bydoedd, a threfnaist i’r wawrddydd ei lle, dy allu a daenodd y nefoedd a’th gerbyd yw cwmwl y ne’; gosodaist sylfeini y ddaear a therfyn i donnau y môr, mor fawr yw gweithredoedd digymar a rhyfedd ddoethineb yr Iôr. Ti, Arglwydd, sy’n cynnal y cread a newydd yw’r fendith a […]
Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]
(Tôn: Caryl, Rhys Jones) Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm, pan euro’r haul las erwau llawr y cwm, pan byncia’r adar gân yn gynnar gôr mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Iôr. Pan welaf wên ar wedd blodeuyn hardd, pan welaf wyrth aeddfedrwydd ffrwythau’r ardd, pan glywaf su aur donnau’r meysydd ŷd mi […]
(Brawdoliaeth) Mae rhwydwaith dirgel Duw yn cydio pob dyn byw; cymod a chyflawn we myfi, tydi, efe: mae’n gwerthoedd ynddo’n gudd, ei dyndra ydyw’n ffydd; mae’r hwn fo’n gaeth yn rhydd. Mae’r hen frawdgarwch syml tu hwnt i ffurfiau’r deml; â’r Lefiad heibio i’r fan, plyg y Samaritan; myfi, tydi, ynghyd er holl raniadau’r byd […]
(Arian ac Aur) Aeth Pedr ac Ioan un dydd i’r demel mewn llawn hyder ffydd i alw ar enw Gwaredwr y byd, i ddiolch am aberth mor ddrud. Fe welsant ŵr cloff ar y llawr, yn wir, ‘roedd ei angen yn fawr; deisyfodd elusen, rhyw gymorth i’w angen, a Phedr atebodd fel hyn: “‘Does gennyf […]