Dewch ynghyd i foli Duw ein Brenin mawr; Dewch a chân o fawl o’i flaen, Canwch iddo nawr. Clod a mawl i’n Harglwydd ni, Clod a mawl i’n Harglwydd ni, Boed i bawb sydd yn caru d’achubol waith Roi clod i’n Harglwydd ni. Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Tomos, Sound the call to worship: James Anderson © […]
Gwir fab Duw, dyma ein cân o fawl. Iesu, ein Duw, canwn i ti. Tyred, Ysbryd ein Duw, Rho fywyd yn y geiriau hyn. Mae angylion y nef Yn canu ein cân o fawl. Fe’th folwn, fe’th folwn, Fe’th folwn, addolwn di. Fe’th folwn, addolwn di. Gwir Fab Duw, dyma ein cân serch. Iesu, ein […]
Iesu, anfon weithwyr lu, O, mae eu hangen hwy. Mae’r tir yn barod i’w fedi, Y caeau’n aeddfed mwy. Ond Arglwydd cymer fi, Iesu, o cymer fi. Pwy a â drosot ti? Pwy a â drosot ti? Dyma fi nawr – Af fi, ie fi, Iôr, Af fi. O na welem Gymru’n troi Yn dyrfa […]
O Dduw, mae du gymylau barn Yn bygwth uwch ein byd, A ninnau’n euog. O Dduw, fe dorrwyd deddfau clir Dy gariad – gwêl ein gwae, Bywydau’n deilchion. O trugarha, (dynion) O trugarha, (merched) O maddau’n bai, (dynion) O maddau’n bai, (merched) O adfer ni – bywha dy eglwys Iôr. (pawb) A llifed barn (dynion) […]