logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ysbryd graslon, rho i mi

Ysbryd graslon, rho i mi fod yn raslon fel tydi; dysg im siarad yn dy iaith, boed dy ddelw ar fy ngwaith; gwna i holl addfwynder f’oes ddweud wrth eraill werth y groes. Ysbryd geirwir, rho i mi fod yn eirwir fel tydi; trwy’r ddoethineb oddi fry gwna fi’n dirion ac yn gry’; gwna fi’n […]


Ysbryd Sanctaidd, disgyn

Ysbryd Sanctaidd, disgyn o’r uchelder glân nes i’n calon esgyn mewn adfywiol gân. Arwain ein hysbrydoedd i fynyddoedd Duw, darpar yno’r gwleddoedd wna i’r enaid fyw. Dangos inni’r llawnder ynddo ef a gaed, dangos inni’r gwacter heb rinweddau’r gwaed. Ysbryd Sanctaidd, dangos inni’r Iesu mawr; dwg y nef yn agos, agos yma nawr. PENAR, 1860-1918 […]


Ysbryd Sanctaidd, dyro’r golau

Ysbryd Sanctaidd, dyro’r golau ar dy eiriau di dy hun; agor inni’r Ysgrythurau, dangos inni Geidwad dyn. O sancteiddia’n myfyrdodau yn dy wirioneddau byw; crea ynom ddymuniadau am drysorau meddwl Duw. Gweld yr Iesu, dyna ddigon ar y ffordd i enaid tlawd; dyma gyfaill bery’n ffyddlon, ac a lŷn yn well na brawd DYFED, 1850-1923

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Ysbryd y gorfoledd

Ysbryd y gorfoledd, tyrd i’n calon ni, fe ddaw cân i’n henaid wrth d’adnabod di; cyfaredda’n hysbryd â llawenydd byw nes in lwyr feddiannu cyfoeth mawr ein Duw. Ysbryd y gwirionedd, rho dy lewyrch clir, arwain ni o’r niwloedd at oleuni’r gwir; rho i ni’r ddoethineb sydd mor lân â’r wawr, tyn ein henaid gwamal […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016

Ysbryd y gwirionedd, tyred

Ysbryd y gwirionedd, tyred yn dy nerthol, ddwyfol ddawn; mwyda’r ddaear sych a chaled a bywha yr egin grawn: rho i Seion eto wanwyn siriol iawn. Agor gyndyn ddorau’r galon a chwâl nythle pechod cas; bwrw bob rhyw ysbryd aflan sy’n llochesu ynddi i maes: gwna hi’n gartref i feddyliau prydferth gras. Tywys Seion i’r […]


Ysbryd y Tragwyddol Dduw

Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni; Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni: plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni: Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni. Daniel Iverson (1890-1977) : Spirit of the living God Cyfieithiad Awdurdodedig: IDDO EF/R. Glyn Jones Hawlfraint © 1935, Adnewyddwyd 1963 Birdwing Music. Gweinyddir gan CopyCare (Caneuon […]


Ystwyll

Rwyf yn dy garu, Iesu cu; Mor felys yw dy gwmni di Tydi yw ‘mrenin, ti yw ‘Nuw, A hebddot ti ni fynnaf fyw. Pan o’n i’n rhodio’r llwybrau hir, Goleuaist di fy ffordd yn glir; Wrth ddilyn d’arwydd di o’r nef, Agosach wyf at weld dy wedd. Annoeth yr oeddwn ambell waith, Wrth geisio […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 14, 2016