’D ai ‘mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb, na’i hedd, Ond Hwnnw’n unig gŵyd fy llwch, Yn fyw i’r lan o’r bedd. Mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad, Ar orsedd fawr y nef; Ac y mae’r cyfan sy mewn bod Dan ei awdurdod Ef. Fe gryn y ddaer ac uffern fawr Wrth amnaid Twysog […]
‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
‘R un un o hyd, ‘r un un o hyd, na, nid marw ydyw Iesu, mae’n fyw o hyd, ‘r un un o hyd, ‘r un un o hyd, na, nid marw ydyw Iesu, mae’n fyw o hyd. Ef yw’r Gair fu o’r dechreuad trwyddo crewyd popeth sydd, ef sy’n cynnal y bydysawd trwy ei […]
1,2,3 Un, dwy, tair dafad fach yn y gorlan; wyth, naw, deg sy’n cael eu cyfri yn y pant; nawdeg saith, nawdeg wyth, NAWDEG NAW! (O, NA!) Mae’r bugail wedi colli rhif cant! Felly fwrdd â fo i chwilio am y ddafad, chwilio dros y bryniau, yn agos ac yn bell. Mae’n darganfod yr oen […]
Mola’r Iôr, f’enaid i, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Gyda’m nerth i gyd, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Fe gwyd yr haul, diwrnod newydd wawria, Mae’n amser canu Dy gân o Dduw. Beth bynnag a ddaw, yr hyn fydd ar fy llwybr, Rho ras i ganu wrth i’r machlud ddod. O! gyfoeth gras, […]
A fynno ddewrder gwir, O deued yma; mae un a ddeil ei dir ar law a hindda: ni all temtasiwn gref ei ddigalonni ef i ado llwybrau’r nef, y gwir bererin. Ei galon ni bydd drom wrth air gwŷr ofnus, ond caiff ei boenwyr siom, cryfha’i ewyllys: ni all y rhiwiau serth na rhwystrau ddwyn […]
(CAROL GŴR Y LLETY) A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr? Bu raid imi ddweud bod y llety’n llawn a chlywais hwy’n sibrwd, “Pa beth a wnawn?” A wyt yn fy meio am droi y ddau i lety’r anifail a hi’n hwyrhau? ‘Roedd yr awel neithiwr yn finiog […]
A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! Fe’i teimlaf yn fy nwylo! (Clap, Clap) Fe’i teimlaf yn fy nhraed! (Stamp, Stamp) Fe’i teimlaf yn fy nghalon!(Bwm) Fe’i teimlaf yn fy ngwaed! (wheee!) […]
O, nid golud a geisiaf Ar y ddaear, fy Nuw, Ond cael sicrwydd yr haeddaf Ddod i’r nefoedd i fyw. Yng nghofnodion dy deyrnas, Ar y ddalen wen fawr, Dywed Iesu, fy Ngheidwad, A yw f’enw i lawr? A yw f’enw i lawr Ar y ddalen wen fawr? Yng nghofnodion dy deyrnas, A yw f’enw […]
Â’n hyder yn yr Iesu mawr fe gofiwn am y sanctaidd awr pan roes ei fywyd drud i lawr, hyd nes y daw. Yng nghof yr Eglwys ymhob man mae’r corff a ddrylliwyd ar ein rhan a’r bara bortha’n henaid gwan hyd nes y daw. Am ffrydiau yr anhraethol loes dywalltwyd drosom ar y groes […]