Bydd yn welediad fy nghalon am byw; Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw; Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd, Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd. Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi, Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi; Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun, Ti […]
Cariad na bu ei fath Yw cariad f’Arglwydd glân; ‘Gras i’r di-ras i’w gwneud Yn raslon,’ yw ein cân; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iachâd i ddyn; Ond fe’i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un: Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf […]
Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw, doed dynol-ryw i’w ganmol; ei hedd, fel afon fawr, ddi-drai, a gaiff ddyfrhau ei bobol. Ei air a’i amod cadw wna, byth y parha’i ffyddlondeb nes dwyn ei braidd o’u poen a’u pla i hyfryd dragwyddoldeb. Ef ni newidia, er gweld bai o fewn i’w rai anwyla’; byth cofia waed […]
Clywch y newydd da, Llawenydd mawr i bawb drwy’r byd; Hyn a fydd yn arwydd: I Fethlehem daw mab mewn crud. Dewch, addolwch, peidiwch ofni dim. Neges côr angylion: ‘Gogoniant fo i Frenin Nef, Ac ar y ddaear heddwch I’r bobl wnaiff ei ddilyn Ef.’ Mae f’enaid i yn mawrhau yr Iôr! F’enaid sy’n mawrhau […]
Codwch eich pen fry i’n Brenin mawr, Plygwch, molwch, cenwch iddo nawr I’w fawrhydi Ef, boed eich clod yn llawn, Pur a sanctaidd, rhowch ogoniant Nawr i Frenin nef. (fersiwn i’r plant:) Codwn ni ein llef, ffrindiau Brenin Nef. Dewch, ymunwch, cyd-addolwn Ef. Canwn, yn un côr, glod i’n Harglwydd Iôr; Mawl fo iddo, gweithiwn […]
Cyduned Seion lân mewn cân bereiddia’i blas o fawl am drugareddau’r Iôn, ei roddion ef a’i ras. Ble gwelir cariad fel ei ryfedd gariad ef? Ble bu cyffelyb iddo erioed? Rhyfeddod nef y nef! Fe’n carodd cyn ein bod, a’i briod Fab a roes, yn ôl amodau hen y llw, i farw ar y groes. […]
Cyduned y nefolaidd gôr a llwythau dynol-ryw i ganu’n llon â llafar lef mai cariad ydyw Duw. Eglura gwirioneddau’i air, a’i drugareddau gwiw, ac angau Crist dros euog ddyn mai cariad ydyw Duw. Dwyn rhyfedd waith ei ras ymlaen mewn calon ddrwg ei lliw a ddengys drwy’r eglwysi oll mai cariad ydyw Duw. Derbyniad euog […]
Cydunwn oll i ganu’n awr, ‘Cariad yw Duw!’ Daw sŵn y mawl o nef a llawr – ‘Cariad yw Duw!’ O purer ninnau fel trwy dân, A seinied pawb y felys gân, Yn bêr er mwyn yr Iesu glân, ‘Cariad yw Duw!’ O aed y geiriau led y byd, ‘Cariad yw Duw!’ Yng Nghrist fe […]
Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw, ni syfl o’i le, nid ie a nage yw; cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith; er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith. Cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri, hen air y llw a droes yn elw i ni; mae’n ddigon cry’ i’n codi i fyny’n fyw, ei […]
Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef, da yw Duw, fe ddathlwn ni: da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym, da yw Duw, hyn wyddom ni. Llenwi â mawl mae fy nghalon i am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio: ac yn ei galon mae lle i mi, rhedeg wnaf â’m breichiau ar […]