logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Boed fy nghalon iti’n demel

Boed  fy nghalon iti’n demel, boed fy ysbryd iti’n nyth, ac o fewn y drigfan yma aros, Iesu, aros byth: gwledd wastadol fydd dy bresenoldeb im. Awr o’th bur gymdeithas felys, awr o weld dy ŵyneb-pryd sy’n rhagori fil o weithiau ar bleserau gwag y byd: mi ro’r cwbwl am gwmpeini pur fy Nuw. Datrys, datrys fy […]


O sancteiddia f’enaid Arglwydd

O! sancteiddia f’enaid Arglwydd, ymhob nwyd ac ymhob dawn; rho egwyddor bur y nefoedd yn fy ysbryd llesg yn llawn: n’ad im grwydro draw nac yma fyth o’m lle. Ti dy hunan all fy nghadw rhag im wyro ar y dde, rhedeg eilwaith ar yr aswy, methu cadw llwybrau’r ne’: O tosturia, mewn anialwch rwyf […]


Fe roed imi ddymuniadau

Fe roed imi ddymuniadau nad oes dim o fewn y byd, yn y dwyrain na’r gorllewin a all hanner llanw ‘mryd: tragwyddoldeb, yno llenwir fi yn llawn. Mi gaf yno garu a fynnwyf, cariad perffaith, pur, di-drai; cariad drwy ryw oesoedd mawrion nad â fymryn bach yn llai: môr diderfyn byth yn berffaith, byth yn […]


O Arglwydd, dywed im pa lun

O Arglwydd, dywed im pa lun y gallaf gario ‘meichiau f’hun: mawr ydynt hwy, a minnau’n wan; pa fodd y coda’ i’r lleia’ i’r lan? D’ysgwyddau di ddeil feichiau mawr, mae’n hongian arnynt nef a llawr; am hyn fy holl ofidiau i gaiff bwyso’n gyfan arnat ti. Mae’r holl greadigaeth yn dy law, ti sy’n […]


Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan

Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan, ‘n enwedig dal fi lle ‘rwy’n wan; dal fi yn gryf nes mynd i maes o’r byd sy’n llawn o bechod cas. Gwna fi’n gyfoethog ymhob dawn, gwna fi fel halen peraidd iawn, gwna fi fel seren olau wiw ‘n disgleirio yn y byd ‘rwy’n byw. Dysg […]


Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl

Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl i ‘mofyn pleser gau, ond mi a gerddaf tua’r wlad sy a’i phleser yn parhau. Mae holl deganau’r ddaear hon fu gynt yn fawr eu grym, yng ngŵydd fy Iesu’n gwywo i gyd ac yn diflannu’n ddim. Y mae aroglau pur ei ras fel peraroglau’r nef, ac nid […]


Pererin wyf mewn anial dir

Pererin wyf mewn anial dir yn crwydro yma a thraw, ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr fod tŷ fy Nhad gerllaw. Ac mi debygaf clywaf sŵn nefolaidd rai o’m blaen, wedi gorchfygu a mynd drwy dymhestloedd dŵr a thân. Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd, bydd imi’n niwl a thân; ni cherdda’ i’n gywir hanner […]


Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad

Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad lle mae fy heddwch llawn: O am gael teimlo’i gwleddoedd pur o fore hyd brynhawn. ‘Does dim difyrrwch yma i’w gael a leinw f’enaid cu ond mi ymborthaf ar y wledd sy gan angylion fry. ‘Ddiffygia’ i ddim, er cyd fy nhaith tra pery gras y nef, ac er cyn […]


Golwg, Arglwydd, ar dy ŵyneb

Golwg, Arglwydd, ar dy ŵyneb sydd yn codi’r marw o’r bedd; mae agoriad nef ac uffern yna i’w deimlo ar dy wedd; gair dy ras, pur ei flas, nawr a ddetgly ‘nghalon gas. Arglwydd, danfon dy leferydd heddiw yn ei rwysg a’i rym; dangos fod dy lais yn gryfach nag all dyn wrthsefyll ddim; cerdd […]


Disgyn, Iesu, o’th gynteddoedd

Disgyn, Iesu, o’th gynteddoedd lle mae moroedd mawr o hedd; gwêl bechadur sydd yn griddfan ar ymylon oer y bedd: rho im brofi pethau nad adnabu’r byd. Rho oleuni, rho ddoethineb, rho dangnefedd fo’n parhau, rho lawenydd heb ddim diwedd, rho faddeuant am bob bai; triged d’Ysbryd yn ei demel dan fy mron. Ynot mae […]