Mewn cof o’th aberth wele ni, O Iesu, ‘n cydnesáu; un teulu ydym ynot ti, i’th garu a’th fwynhau. Dy gariad di dy hun yw’r wledd – ni welwyd cariad mwy; ffynhonnau o dragwyddol hedd a dardd o’th farwol glwy’. Er mwyn y gras a ddaeth i ni o’th ddwyfol aberth drud, gwna’n cariad fel […]
O Arglwydd Dduw ein tadau, ein craig a’n tŵr wyt ti: O gogonedda eto dy enw ynom ni; ni cheisiwn fwy anrhydedd na rhodio’n llwybrau’r groes gan fyw i ddangos Iesu a gwasanaethu’n hoes. Nid oes i ni offeiriad ond Iesu Grist ei hun nac ordeiniadau eraill ond geiriau Mab y Dyn: i ryddid pur […]
Na foed cydweithwyr Duw byth yn eu gwaith yn drist wrth ddwyn y meini byw i’w dodi’n nhemel Crist: llawenydd sydd, llawenydd fydd i bawb sy’n gweithio ‘ngolau ffydd. Mae gweithwyr gorau’r ne’ yn marw yn eu gwaith, ond eraill ddaw’n eu lle ar hyd yr oesoedd maith; a ffyddlon i’w addewid fry yw’r hwn […]
Ymwêl â ni, O Dduw, yn nerth yr Ysbryd Glân, adfywia’n calon wyw, rho inni newydd gân: O gwared ni o’n llesgedd caeth, a’r farn ddaw arnom a fo gwaeth. Dy Eglwys, cofia hi ar gyfyng awr ei thrai, datguddia iddi’i bri, a maddau iddi’i bai am aros yn ei hunfan cyd, a’i phlant yn […]
Glanha dy Eglwys, Iesu mawr ei grym yw bod yn lân; sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith a phura hi’n y tân. Na chaffed bwyso ar y byd nac unrhyw fraich o gnawd: doed yn gyfoethog, doed yn gryf drwy helpu’r gwan a’r tlawd. Na thynned gwychder gwag y llawr ei serch oddi ar y gwir; […]
O disgyn, Ysbryd Glân, o’r nefoedd wen i lawr i gynnau’r dwyfol dân yn ein calonnau nawr. Y ddawn a roddaist ti i’th Eglwys pan oedd wan a wnaeth ei gweiniaid hi yn wrol ar dy ran. O gael tafodau tân a phrofi’r nerthol wynt, anturiwn ninnau ‘mlaen fel dy ddisgyblion gynt. O’th garu tra […]
O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
Ysbryd graslon, rho i mi fod yn raslon fel tydi; dysg im siarad yn dy iaith, boed dy ddelw ar fy ngwaith; gwna i holl addfwynder f’oes ddweud wrth eraill werth y groes. Ysbryd geirwir, rho i mi fod yn eirwir fel tydi; trwy’r ddoethineb oddi fry gwna fi’n dirion ac yn gry’; gwna fi’n […]
I’th Eglwys, Arglwydd, rho fwynhau y tywalltiadau nefol, a grasol wyrthiau’r Ysbryd Glân yn creu yr anian dduwiol. Nid dawn na dysg ond dwyfol nerth wna brydferth waith ar ddynion; y galon newydd, eiddot ti ei rhoddi, Ysbryd tirion. Ti elli bob rhyw ddrwg ddileu a’n creu i gyd o’r newydd; yn helaeth rho yn […]
Haleliwia! Haleliwia! Haleliwia! O’r ymdrech fawr ar Galfarî, Dywysog Bywyd, daethost ti, gan ymdaith mewn anfarwol fri: Haleliwia! Ni allai holl ddolurus gur y goron ddrain a’r hoelion dur wanychu grym dy gariad pur: Haleliwia! Gadewaist fröydd brenin braw â phob awdurdod yn dy law, hyd faith derfynau’r byd a ddaw: Haleliwia! Pyrth uffern gaeaist, […]