Pennill 1 Tyrd, fy nghalon wan, nawr at Iesu Tyrd, fy enaid petrus a gwêl Y mae cariad pur a chysur yn dy ing Gorffwys yn Ei berffaith hedd Corws O, ddaioni, daioni yr Iesu Rwyf yn fodlon, nid oes angen mwy Boed fel hyn, doed a ddêl, i mi orffwys bob dydd Yn naioni […]
Mae’r gwynt yn craffu ar bob ystum o dy law Tonnau ofn yn cwympo wrth Dy air Mi wn, yfory, pan ddaw’r pwysau arnaf fi Byddi di yn f’achub i drachefn O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti O’r fath nerthol Dduw, o’r fath nerthol Dduw wyt Ti Yma’n dy gwmni, ni […]
[Pennill 1] O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr Trysor mwyaf i fy enaid sych Fy Nuw, i Ti does neb yn debyg Ynot Ti yn unig mae mwynhad Dy ras, rhy ddwfn i ni ei blymio Dy serch, helaethach yw na’r nef Gwirionedd, ffynnon pob doethineb F’angen di-ddiwedd a fy ngorau i [Pennill 2] […]
Pennill 1 Rwy’n dewis moli a phlygu lawr Er bod poen yn yr offrwm hwn Fe’i hildiaf nawr Yma’n y frwydr, ac amau’n llu Er bod f’enaid i ar chwâl Dy ddewis wnaf Corws Ac mi folaf drwy y fflamau Drwy y storm a thrwy y lli’ Does ’na ddim byd allai byth â dwyn […]
Ar y dydd yr ildiodd angau I nerthol groes fy Arglwydd Iesu Grist Y ddaer yn siglo dan holl bwysau Y tywyll nen Coron galar ar ei dalcen Y brenin tlawd a’i wendid oedd ein nerth Yn ddistaw dangos wnaeth ei gariad I bawb gael gweld O nawr croes fy Iesu Grist Yw y rheswm […]
Pennill 1 S’gen ti syched, s’gen ti angen? Tyrd ac yfa’r dyfroedd bywiol Wedi’th dorri? Mae tangnefedd I ti wrth y dyfroedd bywiol. Pennill 2 Crist sy’n galw; mae adfywiad nawr wrth groes y dyfroedd bywiol. Ildia’th fywyd, aeth d’orffennol; coda yn y dyfroedd bywiol. Corws Y mae afon tosturi a gras yn llifo nawr, […]
Pennill 1 Duw sofran wyt, ddigymar Ri! Y saint a’r engyl molant di Gan blygu glin wrth orsedd gras I Ti fo’r clodydd mwya’u bri Pennill 2 Ym mhob dioddefaint a phob loes Llochesaf dan dy adain di A phob rhyw elyn cas a ffy; Fy ngobaith wyt a’m concwest i Cytgan 1 Clod i […]
Pennill 1 Sut gall hyn fod? – bu farw Un, Cymerodd Ef ein pechod ni, Drwy’i aberth lloriodd angau du. Cân, cân ‘Haleliwia’! Pennill 2 Llawenydd ddaw fel golau’r wawr Pan sylla’i blant ar Iesu cu. Yn fyw y saif, eu Ffrind a’u Rhi; Crist, Crist, atgyfododd! Cytgan Cododd Iesu, do cyfododd yn wir! O, […]
Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf; gad im fod fel Crist i ti; boed i mi gael gras i dderbyn dy wasanaeth di i mi. Pererinion ŷm yn teithio, a chymdeithion ar y daith; yma rŷm i helpu’n gilydd- rhodio’r filltir, cario’r baich. Daliaf olau Crist i oleuo yn nhywyllwch gwaetha’ d’ofn: estyn llaw a wnaf […]
Pennill 1 Er im gerdded drwy’r dyffryn Ac na welaf y ffordd Â’r cysgodion o ‘nghwmpas Fydd gen i ddim ofn Fe wn i dy fod yma Arlwyo wnei Di Er mai unig yw’r llwybr Rwyt Ti wrth f’ochr i Rhag-gorws Gorffwys f’enaid i Pwysaf ar neb ond Ti Cytgan Mae yr Arglwydd (fy) Mugail […]