Efe yw’r perffaith Iawn. Mae Teyrnas Gras yn llawn O bechaduriaid mawr A gafodd yma i lawr O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr. Fy iachawdwriaeth i Sydd wastad ynot Ti, Mae grym y Groes a’r gwaed A’r llawnder im a gaed, O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau. A […]
Ysbrydoliaeth Beiblaidd: Luc 15, Y mab wnaeth wrthryfela (Dameg y Mab Afradlon) Mynnais wlad yn bell o olwg Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad; Yno ‘roedd fy ffrindiau’n ffyddlon, nes i’m brofi’n llwyr eu brad. Pechod aflan, do fe’m gyrrodd ‘Nes a nes at gibau’r moch, Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd O dynfa gref y byd a’i […]
Ysbrydolioaeth Beiblaidd (Datguddiad 1:6) Nyni sydd ar y llawr yn ddim, Wnaeth E’n frenhinoedd nêf, Angylion Duw yn dal ein llaw A’n tywys tua thref. Edrychwn ar frenhinoedd byd Yn drist am fod i’r rhain, Ein gweld, sydd ar y llawr, yn neb, Cyff gwawd a choron ddrain. Ond cerddwn wastad gydag Ef; Glân yn […]
Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, Er cwpan gwawd un bychan yw, Ond cwpan Iesu i’r ymylon, Fu’n gwpan llid digofaint Duw. Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, O gwrando Iesu ar fy nghri, Er nad oes gennyf ddim i’w gynnig, Fy Arglwydd Iesu, – cofia fi. Tu hwnt i’r Groes […]
Mae balm Gilead fel y gwin A bythol nerthol yw ei rîn A nerthol yw ei rîn. Iachau fy nghlwyfau dyfnion du Wna gwaed y groes, mae Ef o’m tu Yr Iesu sydd o’m tu. Pwy ylch fy meiau eto ma’s Pwy ond Efe yn ddyn o’m tras Efe yn ddyn o’m tras. Yn Dduw […]
Y Nefoedd (yn seiliedig ar Datguddiad 22:1-9) Afon bur o ddwfr y bywyd, O fy Arglwydd rhoist i mi Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari, Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari. Afon bur o ddwfr y bywyd, Disglair fel y grisial yw, Yn dod allan o orseddfainc Iesu’r oen […]
Yr Iawn, anfeidrol gariad yw Efe, Fe roed digofaint Duw arno’n fy lle, Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr, Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr, Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr, Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr. Mae hyd a lled ei rîn yn fythol wyrdd Yr Iawn a roed i […]