(Perffaith gariad) Rwy’n dy garu er na’th welais, Mae dy gariad fel y tân; Ni all nwydau cryf fy natur Sefyll mymryn bach o’th flaen; Fflam angerddol Rywbryd ddifa’r sorod yw. Pell uwch geiriau, pell uwch deall, Pell uwch rheswm gorau’r byd, Yw cyrhaeddiad perffaith gariad, Pan ennyno yn fy mryd: Nid oes tebyg Gras […]
‘Rwy’n dy garu, ti a’i gwyddost, ‘rwy’n dy garu, f’Arglwydd mawr; ‘rwy’n dy garu yn anwylach na’r gwrthrychau ar y llawr: darllen yma ar fy ysbryd waith dy law. Fflam o dân o ganol nefoedd yw, ddisgynnodd yma i’r byd, tân a lysg fy natur gyndyn, tân a leinw f’eang fryd: hwn ni ddiffydd tra […]
‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell amdanat bob yr awr; tyrd, fy Anwylyd, mae’n hwyrhau a’m haul bron mynd i lawr. Tyn fy serchiadau’n gryno iawn oddi wrth wrthrychau gau at yr un gwrthrych ag sydd fyth yn ffyddlon yn parhau. ‘Does gyflwr dan yr awyr las ‘rwyf ynddo’n chwennych byw, ond fy hyfrydwch fyth […]
Rwy’n gorwedd dan fy mhwn, Yn isel wrth dy draed, Yn adde’ ‘mod yn waelach dyn Nag eto un a gaed; Rhyw ddyfnder sy’n fy nghlwy’ Mwy nag a ddeall dyn, Ac nid oes yn f’adnabod i Neb on Tydi dy Hun. O! boed maddeuant rhad, Yn hyfryd waed yr Oen, Yn destun moliant ym […]
‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod bydd pob cyfandir is y rhod yn eiddo Iesu mawr; a holl ynysoedd maith y môr yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr dros ŵyneb daear lawr. Mae teg oleuni blaen y wawr o wlad i wlad yn dweud yn awr fod bore ddydd gerllaw; mae pen y bryniau’n […]
‘Rwy’n morio tua chartref Nêr, Rhwng tonnau maith ‘rwy’n byw, Yn ddyn heb neges dan y sêr, Ond ‘mofyn am ei Dduw. Mae’r gwyntoedd yn fy nghuro’n ôl, A minnau ‘d wyf ond gwan; O! cymer Iesu, fi yn dy gôl, Yn fuan dwg fi i’r lan. A phan fo’n curo f’enaid gwan Elynion rif […]
Rwy’n ofni f’nerth yn ddim Pan elwy’i rym y don: Mae terfysg yma cyn ei ddod, A syndod dan fy mron: Mae ofnau o bob rhyw, Oll fel y dilyw ‘nghyd, Yn bygwth y ca’i ‘nhorri i lawr, Pan ddêl eu hawr ryw bryd. A minnau sydd am ffoi, Neu ynteu droi yn ôl, Yn […]
‘Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da, o bobman atat ti, ym merw blin y byd a’i bla dy wedd sy’n hedd i mi; ni chefais, naddo, mewn un man un balm i’m calon drist nac enw swyna f’enaid gwan ond enw Iesu Grist. ‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr ym merw mawr y byd; […]
Rwyf ar y cefnfor mawr Yn rhwyfo am y lan; Mae’r nos yn enbyd, ond daw gwawr, A hafan yn y man. Ni chollir monof ddim A’r Iesu wrth y llyw; Ei ofal mawr a’i ryfedd rym A’m ceidw innau’n fyw. Tangnefedd heb un don, Fy Ngheidwad, dyro’n awr; Cerydda’r terfysg dan fy mron A […]
Saif brenhiniaeth fawr yr Iesu a’i gorseddfa’n fythol lân, saif ei heddwch yn dragywydd, saif ei chysur byth a’i chân; hedd, maddeuant, meddyginiaeth, iachawdwriaeth ynddi a gaed; gras sydd drwyddi yn teyrnasu, deddf yn gwenu yn y gwaed. Saif heb siglo yn dragwyddol eiriau yr anfeidrol Fod, saif ei gyngor a’i gyfamod pan ddatodo rhwymau’r […]