O Dduw, rho im dy Ysbryd, dy Ysbryd ddaw â gwres, dy Ysbryd ddaw â’m henaid i’r nefoedd wen yn nes; dy Ysbryd sy’n goleuo, dy Ysbryd sy’n bywhau, dy Ysbryd sydd yn puro, sancteiddio a dyfrhau. Dy Ysbryd sydd yn cynnal yr eiddil, gwan ei ras, yn nerthu’r enaid egwan sy’n ofni colli’r maes; […]
O disgyn, Ysbryd Glân, o’r nefoedd wen i lawr i gynnau’r dwyfol dân yn ein calonnau nawr. Y ddawn a roddaist ti i’th Eglwys pan oedd wan a wnaeth ei gweiniaid hi yn wrol ar dy ran. O gael tafodau tân a phrofi’r nerthol wynt, anturiwn ninnau ‘mlaen fel dy ddisgyblion gynt. O’th garu tra […]
O disgynned yma nawr Ysbryd Crist o’r nef i lawr; boed ei ddylanwadau ef yn ein plith fel awel gref a gorffwysed ef a’i ddawn ar eneidiau lawer iawn. I ddarostwng drwy ei ras ynom bob anwiredd cas, a’n prydferthu tra bôm byw ar sancteiddiol ddelw Duw, rhodded inni’n helaeth iawn o’i rasusol, ddwyfol ddawn. […]
O na ddôi’r nefol wynt i chwythu eto, fel bu’n y dyddiau gynt drwy’n gwlad yn rhuthro nes siglo muriau’r tý a phlygu dynion cry’; O deued oddi fry mae’n bryd i’w deimlo. O na ddôi’r fflam o’r nef i’r hen allorau, y fflam wna’r weddi’n gref bob hwyr a bore. ‘Does dim ond sanctaidd […]
O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
O Ysbryd byw, dylifa drwom, bywha dy waith â grym y groes. O Ysbryd byw, tyrd, gweithia ynom, cymhwysa ni i her ein hoes. O ddwyfol wynt, tyrd, plyg a thrin ni nes gweld ein hangen ger dy fron; ac achub ni â’th hael dosturi, bywha, cryfha; clyw’r weddi hon. O gariad Crist, chwyth arnom […]
O! Ysbryd sancteiddiolaf, Anadla arna’ i lawr O’r cariad anchwiliadwy Sy ‘nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, ‘Rwy’n disgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. O! Ysbryd pur nefolaidd, Cyn elwy’ i lawr i’r bedd, Trwy ryw athrawiaeth hyfryd, Gad imi brofi o’th hedd: Maddeuant, O! maddeuant, […]
Pererin wyf mewn anial dir yn crwydro yma a thraw, ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr fod tŷ fy Nhad gerllaw. Ac mi debygaf clywaf sŵn nefolaidd rai o’m blaen, wedi gorchfygu a mynd drwy dymhestloedd dŵr a thân. Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd, bydd imi’n niwl a thân; ni cherdda’ i’n gywir hanner […]
Ti yw’r Un sy’n adnewyddu, ti yw’r Un sy’n bywiocáu; ti yw’r Un sy’n tangnefeddu wedi’r cilio a’r pellhau: bywiol rym roddaist im, bellach ni ddiffygiaf ddim. Ti rydd foliant yn y fynwes, rhoddi’r trydan yn y traed; ti rydd dân yn y dystiolaeth i achubol werth dy waed: cawsom rodd wrth ein bodd, ofn […]
Trwy d’Ysbryd heddiw awn i’th dŷ â moliant llawn, O Dad pob dawn, clodforwn di: daioni fel y môr sy’n llifo at bob dôr, o ras ein Iôr, i’n heisiau ni. Dy holl weithredoedd rydd eu cân i Dduw bob dydd a moliant sydd ym mhyrth dy saint; trugaredd yn dy dŷ yn well na’r […]