Darfu noddfa mewn creadur, Rhaid cael noddfa’n nes i’r nef; Nid oes gadarn le im orffwys Fythol ond ei fynwes Ef; Dyma’r unig Fan caiff f’enaid wir iachâd. Dan dy adain cedwir f’enaid, Dan dy adain byddaf byw, Dan dy adain y gwaredir Fi o’r beiau gwaetha’u rhyw; ‘Rwyt yn gysgod Rhag euogrwydd yn ei […]
Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r llawr, Mae dy lwybrau’n anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr: Dy feddyliau – Is nag uffern, uwch na’r nef! Minnau’n ddyfal sy’n ymofyn Ar yr aswy, ar y dde, Ceisio canfod dwfwn gyngor, A dibenion Brenin ne’: Hyn a ffeindiais – Mai daioni yw oll i mi. Da […]
Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r byd; F’enaid innau sy’n dy olrhain Trwy’r greadigaeth faith i gyd: Ffaelu â’th ffeindio I’r cyflawnder sy arna’i chwant. D’wed a ellir nesu atat, D’wed a ellir dy fwynhau, Heb un gorchudd ar dy ŵyneb, Nac un gwg i’m llwfwrhau: Dyma’r nefoedd A ddeisyfwn tu yma i’r […]
Duw yw fy ngoleuni; yr Arglwydd yw f’achubwr cryf. Duw yw caer fy mywyd, does neb yn gallu ‘nychryn i. Ceisiais un peth gan fy Nuw, Yn ei dŷ gad imi fyw, I syllu ar ei harddwch, a’i geisio yn ei deml bob dydd. Duw fydd yn fy nghadw’n ei gysgod pan ddaw dyddiau gwael, […]
Dewch, canwn yn llawen i’r Arglwydd, I’r Graig sy’n ein hachub rhown hŵre (hŵre!) A down i’w bresenoldeb â diolch A gweiddi ein moliant iddo Ef. Duw mawr yw ein Harglwydd byw Brenin mawr y ddaear lawr Dewch, canwn yn llawen iddo Ef. Mae crombil y ddaear yn ei ddwylo A chopa pob mynydd uchel […]
Dirion Dad, O gwrando’n gweddi, gweld dy wedd sy’n ymlid braw; dyro obaith trech na thristwch, cynnal ni yn nydd y praw; try ein gwendid yn gadernid yn dy law. Ti all droi’r ystorm yn fendith i’n heneidiau blin a gwyw; gennyt ti mae’r feddyginiaeth, sydd a’i rhin yn gwella’n briw; grym dy gariad inni’n […]
Dy deyrnas, Dduw Dad, yw’r cyfanfyd i gyd, dy ddwyfol lywodraeth sy’n cynnal pob byd; teyrnasoedd y ddaear, darfyddant bob un, tragwyddol dy deyrnas fel tithau dy hun. Dy deyrnas a ddaeth yn dy Fab, Iesu Grist, i fyd llawn anobaith, yn gaeth ac yn drist; cyfinawnder a chariad dan goron ei groes, Efengyl y […]
Draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd; doethion a ddaeth i’w weled ef a chanodd angylion uwch ei grud: draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref nid oedd un lle i Geidwad byd; llety’r anifail gafodd ef am nad oedd i’r baban […]
Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri, y winllan wen a roed i’n gofal ni; d’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth, a boed i’r gwir a’r glân gael ynddi nyth; er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun, O crea hi yn Gymru ar dy lun. O deued dydd pan fo awelon Duw yn chwythu […]
Cwpan Duw (Tôn: Troyte, 394 Caneuon Ffydd) Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant, Ef sy’n rhoi bwrlwm yn nyfroedd y nant, Ef sy’n rhoi’r machlud ac Ef sy’n rhoi’r wawr; am ei holl roddion, rhown ddiolch yn awr. Duw rydd yr heulwen i’n llonni o’r nen, ‘r ôl i’r cymylau wasgaru uwchben; Ef […]