Esgyn gyda’r lluoedd fry i fynydd Duw, tynnu tua’r nefoedd, bywyd f’enaid yw. Yfwn o ffynhonnau gloywon ddyfroedd byw wrth fynd dros y bryniau tua mynydd Duw. Dringwn fel ein tadau dros y creigiau serth; canwn megis hwythau, “Awn o nerth i nerth.” Pan wyf ar ddiffygio, gweld y ffordd yn faith, Duw sydd wedi […]
‘R hwn sy’n gyrru’r mellt i hedeg ac yn rhodio brig y don, anfon saethau argoeddiadau i galonnau’r oedfa hon: agor ddorau hen garcharau, achub bentewynion tân; cod yr eiddil gwan i fyny, dysg i’r mudan seinio cân. Llama, Arglwydd, dros y bryniau, doed y dyddiau pur i ben pan fo Seion drwy fawr lwyddiant […]
Adnewydda f’ysbryd, Arglwydd, ar dy ddydd, ac yn dy waith; llanw f’enaid â gorfoledd i’m gwroli ar fy nhaith: gyda’r awel gad im glywed llais o’r nef yn eglur iawn yn cyhoeddi bod i’m henaid heddwch a gollyngdod llawn. Gad im ddringo copa’r mynydd rydd lawn olwg ar y tir lle mae seintiau ac angylion […]
Dan dy fendith wrth ymadael y dymunem, Arglwydd, fod; llanw’n calon ni â’th gariad a’n geneuau ni â’th glod: dy dangnefedd dyro inni yn barhaus. Am Efengyl gras a’i breintiau rhoddwn ddiolch byth i ti; boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd lwyddo fwyfwy ynom ni; i’r gwirionedd gwna ni’n ffyddlon tra bôm byw. JOHN FAWCETT, […]
O rhoddwn fawl i’n Harglwydd Dduw, ffynnon tragwyddol gariad yw: ei drugareddau mawrion ef a bery byth fel dyddiau’r nef. O mor rhyfeddol yw ei waith dros holl derfynau’r ddaear faith; pwy byth all draethu’n llawn ei glod, anfeidrol, annherfynol Fod? Dy heddwch gad i mi fwynhau, heddwch dy etholedig rai; a phan y’u rhoddi […]
Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]
Dyro inni dy arweiniad, Arglwydd, drwy yr oedfa hon; rho dy Ysbryd a’i ddylanwad i’n sancteiddio ger dy fron: nefoedd yw dedwydd fyw dan dy wenau di, O Dduw. Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb ewyllysiwn yn y byd, a chael oesoedd tragwyddoldeb i fawrhau dy gariad drud; dyro i lawr, yma nawr, ernes o’r […]
O Arglwydd Dduw, y Brenin mawr, dy fendith dyro inni nawr: rho inni’r fraint ar hyn o bryd yn d’Ysbryd i’th addoli ‘nghyd. Yn ôl d’addewid, Iesu cu, i fod lle byddo dau neu dri, bydd yn ein mysg ar hyn o bryd, tra bo dy bobol yma ‘nghyd. ‘Rwyt ti, O Dduw, ymhob rhyw […]
I Dad y trugareddau i gyd rhown foliant, holl drigolion byd; llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. THOMAS KEN, 1637-1711 cyf. HOWEL HARRIS, 1714-73 (Caneuon Ffydd 15)
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr, mewn parch a chariad yma nawr; y Tri yn Un a’r Un yn Dri yw’r Arglwydd a addolwn ni. Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl, a gweddus inni ganu mawl; down ger ei fron a llafar gân, rhown iddo glod o galon lân. Ei orsedd sydd yn nef y nef, sanctaidd […]