Rwyf ar y cefnfor mawr Yn rhwyfo am y lan; Mae’r nos yn enbyd, ond daw gwawr, A hafan yn y man. Ni chollir monof ddim A’r Iesu wrth y llyw; Ei ofal mawr a’i ryfedd rym A’m ceidw innau’n fyw. Tangnefedd heb un don, Fy Ngheidwad, dyro’n awr; Cerydda’r terfysg dan fy mron A […]
Achubiaeth sy’n eiddo i’n Duw Sy’n eistedd ar orsedd nef, Ac hefyd i’r Oen: Mawl, gogoniant, diolch a chlod, Doethineb, gallu a nerth Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Amen! Ymnerthwn yn awr ynddo ef; Addolwn ein Prynwr, Cyhoeddwn ynghŷd: (Grym Mawl 2: […]
Pe meddwn aur Periw A pherlau’r India bell, Mae gronyn bach o ras fy Nuw Yn drysor canmil gwell. Pob pleser is y rhod A dderfydd maes o law; Ar bleser uwch y mae fy nod, Yn nhir y bywyd draw. Dymunwn ado’n lân Holl wag deganau’r llawr, A phenderfynu fynd ymlaen Ar ôl fy […]
Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur ac arian gwerthfawr; Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur, aur coeth. O Burwr dân, Tyrd, gwna fi yn lân, Tyrd, gwna fi’n sanctaidd Sanctaidd a phur i Ti Iôr. Dwi’n dewis bod yn Sanctaidd Wedi fy rhoi i Ti, fy Meistr; Parod i ufuddhau. Pura […]
O! Arglwydd , clyw fy llef, ‘Rwy’n addef wrth dy draed Im fynych wrthod Iesu cu, Dirmygu gwerth ei waed. Ond gobaith f’enaid gwan, Wrth nesu dan fy mhwn, Yw haeddiant mawr yr aberth drud; Fy mywyd sydd yn hwn. A thrwy ei angau drud Gall pawb o’r byd gael byw: Am hyn anturiaf at […]
I Dad y trugareddau’i gyd Rhown foliant holl drigolion byd; Llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, Y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân. Gogoniant fo i’n Tad ni, Gogoniant fo i’r Mab, Gogoniant fo i’r Ysbryd I dragwyddoldeb mad. “Teilwng yw’r Oen”, yw’r gân o’r nef Dyrchafwn Ef bob un, “Teilwng yw’r Oen” yw’n hateb […]
Mae’r iachawdwriaeth rad Yn ddigon i bob rhai; Agorwyd ffynnon er glanhad Pob pechod cas a bai. Daw tyrfa rif y gwlith Yn iach trwy rin y gwaed: Pwy ŵyr na byddaf yn eu plith, Yn lân o’m pen i’m traed? Er lleted yw fy mhla, Er dyfned yw fy mriw, Y balm o Gilead […]
Dim ond trwy ras cawn fynediad, Dim ond trwy ras ‘down o’th flaen; Nid am in haeddu dy gariad, Deuwn drwy waed pur yr Oen. Ti sy’n ein tywys ni atat, Cawn ddod ger dy fron; Ti sy’n ein galw i’th gwmni, A down trwy dy ras yn llon, Down trwy dy ras yn llon. […]
Adoramus te domine O fe’th addolwn di, Iesu Grist. (Grym Mawl 2: 105) Hawlfraint © Ateliers et Presse de Taize
O! Cenwch fawl i Dduw Tra gweddus yw y gwaith, Am ei drugaredd ryfedd rad, Pob llwyth a gwlad ac iaith. Pan ddwg ei blant ynghyd Yn hyfryd fe’u iachâ; Gan rwymo’r galon ysig friw; Mab Duw sydd Feddyg da. O! Seion, canmol di Y Duw sy’n rhoddi hedd, A phob cysuron it ynghyd, Nes […]