Disgwyl bûm i wrth fy Nuw Ac yna plygodd ataf, Cododd fi o’r mwd a’r baw Mae ‘nhraed ar graig: ni faglaf. Rhoddodd yn fy nghalon gân O fawl i’n Duw goruchaf. Bydd llawer un, pan welant hyn, Yn ofni Duw o’r newydd, Gwyn ei fyd yr un sy’n wir Ymddiried yn yr Arglwydd. Ni […]
Gogoniant i Dduw yn y nefoedd goruchaf Tangnefedd islaw ar y ddaear i ni; Addolwn, moliannwn, diolchwn am d’ogoniant, Dduw Dad hollalluog, ein brenin wyt Ti. Arglwydd Iesu, Oen Duw sydd yn dwyn ymaith pechodau, Fab Duw, trugarha wrthym, gwrando ein llef; Ti’n unig sy’n sanctaidd, Ti’n unig yw’r Arglwydd, Tad, Mab, Ysbryd Glân, yng […]
Duw yw fy ngoleuni; yr Arglwydd yw f’achubwr cryf. Duw yw caer fy mywyd, does neb yn gallu ‘nychryn i. Ceisiais un peth gan fy Nuw, Yn ei dŷ gad imi fyw, I syllu ar ei harddwch, a’i geisio yn ei deml bob dydd. Duw fydd yn fy nghadw’n ei gysgod pan ddaw dyddiau gwael, […]
Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd, Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd; Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw, Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw. Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd […]
O, mae f’enaid i’n mawrygu’r Arglwydd fy Nuw! F’ysbryd sydd yn gorfoleddu, Arglwydd fy Nuw! Edrych wnaeth f’Achubwr addfwyn Ac ystyried ei lawforwyn Er ei bod yn ferch gyffredin, Arglwydd fy Nuw! O hyn allan, pob cenhedlaeth o bobl Dduw Fydd yn dweud y cefais fendith, o bobl Dduw. Wir, mi wnaeth yr un sy’n […]
Dewch, canwn yn llawen i’r Arglwydd, I’r Graig sy’n ein hachub rhown hŵre (hŵre!) A down i’w bresenoldeb â diolch A gweiddi ein moliant iddo Ef. Duw mawr yw ein Harglwydd byw Brenin mawr y ddaear lawr Dewch, canwn yn llawen iddo Ef. Mae crombil y ddaear yn ei ddwylo A chopa pob mynydd uchel […]
Mae Genesis, Exodus, yna Lefiticus, Numeri, Deut’ronomium a Josua’n ei dro, A Barnwyr, Ruth, Samuel, Brenhinoedd a’r Cronicl, Esra a Nehemeia ac Esther a Job. Yna’r Salmau a’r Diarhebion, Pregethwr a Chaniad Solomon, Eseia a Jeremeia, Galarnad mor drist, Eseciel a Daniel, Hosea a Joel, Ac Amos ac Obadeia a Jona, gwael dyst. Dyma Micha […]
Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) O Dduw ein Tad, cyfeiria’n traed A’n tywys ni ar ein taith, Dangosa’r ffordd drwy gwmwl a thân Fel gwnaethost lawer gwaith. Ynot Ti, Arglwydd, gobeithiwn, Ynot Ti rhown ein holl ffydd, Ar hyd ein siwrne arwain ni Yng nghwmni Crist bob dydd. O Iesu […]
Fel y lefain yn y blawd Wedi ei guddio a’i dylino Eto’n tyfu yn y dirgel Nes caiff y cwbl ei lefeinio; Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw, Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw. Deled dy deyrnas Gwneler d’ewyllys Yma ar y ddaear Fel yn y nefoedd Fel yr hedyn lleiaf un Wedi ei guddio’n […]
O paid ag ofni, dywed Duw Rwy’n addo, gwnaf dy achub di A galwaf ar dy enw’n glir Fy eiddo wyt ti. Pan fyddi’n mynd drwy’r dyfroedd dwfn Mi fyddaf yno gyda thi; Wrth groesi’r afon wyllt ei llif Ni suddi di. Pan fyddi’n mynd drwy fflamau’r tân Ni chaiff eu gwres dy losgi di; […]