Adnewydda f’ysbryd, Arglwydd, ar dy ddydd, ac yn dy waith; llanw f’enaid â gorfoledd i’m gwroli ar fy nhaith: gyda’r awel gad im glywed llais o’r nef yn eglur iawn yn cyhoeddi bod i’m henaid heddwch a gollyngdod llawn. Gad im ddringo copa’r mynydd rydd lawn olwg ar y tir lle mae seintiau ac angylion […]
Adoramus te domine O fe’th addolwn di, Iesu Grist. (Grym Mawl 2: 105) Hawlfraint © Ateliers et Presse de Taize
Aed grym Efengyl Crist yn nerthol drwy bob gwlad, sain felys i bob clust fo iachawdwriaeth rad: O cyfod, Haul Cyfiawnder mawr, disgleiria’n lân dros ddaear lawr. Disgleiried dwyfol ras dros holl derfynau’r byd, diflanned pechod cas drwy gyrrau hwn i gyd: cyduned pob creadur byw ar nefol dôn i foli Duw. WILLIAM LEWIS, m.1794 […]
Mair a’i Baban (Tôn: Roedd yn y wlad honno, 397 Caneuon Ffydd) Aeth Mair i gofrestru, ynghyd â’i dyweddi, ag oriau y geni’n nesáu; roedd hithau mewn dryswch a Bethlem mewn t’wyllwch a drws lletygarwch ar gau; gwnaed beudy yn aelwyd ac Iesu a anwyd, a thrwyddo cyflawnwyd y Gair, ond llawn o bryderon, r […]
(Arian ac Aur) Aeth Pedr ac Ioan un dydd i’r demel mewn llawn hyder ffydd i alw ar enw Gwaredwr y byd, i ddiolch am aberth mor ddrud. Fe welsant ŵr cloff ar y llawr, yn wir, ‘roedd ei angen yn fawr; deisyfodd elusen, rhyw gymorth i’w angen, a Phedr atebodd fel hyn: “‘Does gennyf […]
Af i mewn i byrth fy Nuw â diolch yn fy nghalon i, af i mewn i’w gynteddau â mawl, a chyhoeddaf: “Hwn yw’r dydd a wnaeth ein Duw, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef!” Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef! Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, […]
Af ymlaen, a doed a ddelo, Tra fod hyfryd eiriau’r nef Yn cyhoeddi iachawdwriaeth Lawn, o’i enau sanctaidd Ef; Nid yw grym gelyn llym, At ei ras anfeidrol ddim. Ef yw f’unig wir anwylyd, Y ffyddlonaf Un erioed, Ac mi seinia’ i maes tra fyddwyf, Ei anfeidrol ddwyfol glod; Neb ond Fe, is y ne’, […]
Ag arfau’r goleuni meddianwn y tir, Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw. ‘Does dim all wrthsefyll, y gelyn a ffy, Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw. A chanwn foliant iddo, Nerthol a grymus yw’n Duw. Canwn foliant iddo, Rhown yr anrhydedd i’n Duw. Pan ddaw lluoedd tywyllwch i’n herbyn fel lli, Mae’r frwydr yn nwylo […]
Agor di ein llygaid, Arglwydd, i weld angen mawr y byd, gweld y gofyn sy’n ein hymyl, gweld y dioddef draw o hyd: maddau inni bob dallineb sydd yn rhwystro grym dy ras, a’r anghofrwydd sy’n ein llethu wrth fwynhau ein bywyd bras. Agor di ein meddwl, Arglwydd, er mwyn dirnad beth sy’n bod, gweld […]
Agora lygaid fy nghalon, agor fy llygaid yn awr, rwyf am dy weld di, rwyf am dy weld di. I’th weld yn ddyrchafedig fry, disgleirio ‘ngoleuni d’ogoniant. Tywallt dy gariad a’th nerth. Fe ganwn sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd. Rwyf am dy weld di! Open The Eyes Of […]