Dyma’r rhyfeddod mwyaf un Dy fod, O! Dduw, yn Un yn Dri, Yn Drindod Sanctaidd – rwyt yn Dad, Yn Ysbryd ac yn Fab; Ein Tad o’r nef, yr Ydwyf mawr, Yn wir Fab Duw, yn Fab y Dyn, Ac eto’n rhan o’r cynllun hwn – Yr Ysbryd yma’n awr. O! Dduw, fe garem weld […]
Dyn dïeithir ydwyf yma, Draw mae ‘ngenedigol wlad; Draw dros foroedd mawr tymhestlog, Ac o fewn i’r Ganaan rad: Stormydd hir o demtasiynau A’m curodd i fel hyn mor bell; Tyred, ddeau wynt pereiddiaf, Chwyth fi i’r Baradwys well. Ac er gwaethaf grym y tonnau Sydd yn curo o bob tu, Dof trwy’r stormydd, dof […]
Dyrchafaf glod i’r Arglwydd Dduw; Moliannu wnaf tra byddaf byw. Teyrnasu mae Efe mewn moliant yn y nef; Mawrygaf Iesu, yr Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Meri Davies (All Hail the Lamb gan Dave Bilbrough) Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]
Dyrchafer enw Iesu cu gan seintiau is y nen, a holl aneirif luoedd nef, coronwch ef yn ben. Angylion glân, sy’n gwylio’n gylch oddeutu’i orsedd wen, gosgorddion ei lywodraeth gref, coronwch ef yn ben. Hardd lu’r merthyri, sydd uwchlaw erlyniaeth, braw a sen, â llafar glod ac uchel lef coronwch ef yn ben. Yr holl […]
Dyrchafodd Crist o waelod bedd goruwch y nefoedd wen, lle’r eistedd ar orseddfainc hedd, a’i goron ar ei ben. “Yr Oen a laddwyd, teilwng yw!” medd holl dafodau’r nef; ac uned pob creadur byw i’w foli ag uchel lef. Am iddo oddef marwol glwy’ a’n prynu drwy ei waed, caiff holl goronau’r nefoedd mwy eu […]
Dyrchafwn enw Duw, Dyrchafwn enw Duw, Addolwn wrth ei droedfainc, Molwn wrth ei droedfainc, Sanctaidd yw Ef, sanctaidd yw Ef. (Grym Mawl 1: 29) Rick Ridings: Exalt the Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies Hawlfraint © Scripture in Song/Thankyou Music 1977/1980.
Dyrchafwn ganiad newydd, O Arglwydd, ger dy fron am dy amddiffyn grasol i’r demel annwyl hon: deisyfwn unwaith eto am olwg ar dy wedd lle buost drwy’r blynyddoedd yn rhoi o rin dy hedd. Bu’n tadau gynt yn dyfod o bellter bro a bryn i blygu mewn addoliad o fewn i’r muriau hyn: datguddiaist iddynt […]
Dyro dangnefedd, O Arglwydd, i’r sawl a gred ynot ti; dyro, dyro dangnefedd, O Arglwydd, dyro dangnefedd. CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 790)
Dyro inni dy arweiniad, Arglwydd, drwy yr oedfa hon; rho dy Ysbryd a’i ddylanwad i’n sancteiddio ger dy fron: nefoedd yw dedwydd fyw dan dy wenau di, O Dduw. Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb ewyllysiwn yn y byd, a chael oesoedd tragwyddoldeb i fawrhau dy gariad drud; dyro i lawr, yma nawr, ernes o’r […]
Dyro inni fendith newydd gyda’n gilydd yn dy dŷ; ti sy’n rhoddi nerth i dderbyn, rho’r gyfrinach oddi fry fel y teimlwn rym dy anorchfygol ras. Boed i ni, drwy eiriau dynion, brofi rhin dy eiriau di, a’u hawdurdod yn distewi ofnau’r fron a’i balchder hi; trwy dy gennad O llefara wrth dy blant. Cyfoethoga […]