Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl i ‘mofyn pleser gau, ond mi a gerddaf tua’r wlad sy a’i phleser yn parhau. Mae holl deganau’r ddaear hon fu gynt yn fawr eu grym, yng ngŵydd fy Iesu’n gwywo i gyd ac yn diflannu’n ddim. Y mae aroglau pur ei ras fel peraroglau’r nef, ac nid […]
Ni welodd llygad dyn erioed, ni chlywodd clust o dan y rhod am neb cyffelyb iddo ef: O Rosyn Saron hardd ei liw: pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw? Efe yw bywyd nef y nef. O f’enaid, edrych arno nawr, yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr; yn holl ogoniant dŵr a thir; nid oes, ni […]
Nid oes eisiau un creadur Yn bresennol lle bo Duw; Mae E’n fwyd, y mae E’n ddiod, Nerth fy natur egwan yw: Pob hapusrwydd Sydd yn aros ynddo’i Hun. Gyrrwch fi i eithaf twllwch, Hwnt i derfyn oll sy’n bod, I ryw wagle dudew anial, Na fu creadur ynddo ‘rioed; Hapus hapus Fyddaf yno gyda […]
Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn, A leinw f’enaid bach yn llawn, Ni allwn ddal dim mwy pe cawn, Mae Ef yn ddigon mawr: A digon, digon, digon yw Dy hyfryd bresenoldeb gwiw, Yn angau ceidw hyn fi’n fyw, A bodlon wyf yn awr. A phe diffoddai’r heulwen fawr, Pe syrthiai sêr y nen […]
(Rhinweddau enw Iesu) Nid oes pleser, nid oes tegan Nid oes enw mewn un man, Er ei fri a’i holl ogoniant, Fyth a lesia i’m henaid gwan Ond fy Iesu: Ef ei Hunan yw fy Nuw. Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae tegwch ragor Nag a welodd […]
O am nerth i dreulio ‘nyddiau yng nghynteddoedd tŷ fy Nhad, byw ynghanol y goleuni, t’wyllwch obry dan fy nhraed; byw heb fachlud haul un amser, byw heb gwmwl, byw heb boen, byw ar gariad anorchfygol, pur y croeshoeliedig Oen. Dyro olwg ar dy haeddiant, golwg ar dy deyrnas rad, brynwyd imi ac a seliwyd, […]
O Arglwydd, dywed im pa lun y gallaf gario ‘meichiau f’hun: mawr ydynt hwy, a minnau’n wan; pa fodd y coda’ i’r lleia’ i’r lan? D’ysgwyddau di ddeil feichiau mawr, mae’n hongian arnynt nef a llawr; am hyn fy holl ofidiau i gaiff bwyso’n gyfan arnat ti. Mae’r holl greadigaeth yn dy law, ti sy’n […]
O enw ardderchocaf yw enw marwol glwy’, caniadau archangylion fydd y fath enw mwy; bydd yr anfeidrol ddyfais o brynedigaeth dyn gan raddau filoedd yno yn cael ei chanu’n un. Fe ddaeth i wella’r archoll drwy gymryd clwyf ei hun, etifedd nef yn marw i wella marwol ddyn; yn sugno i maes y gwenwyn a […]
O! fy enaid gorfoledda, Er mai tristwch sy yma’n llawn; Edrych dros y bryniau mawrion I’r ardaloedd hyfryd iawn: Uwch tymhorol Feddiant mae fy nhrysor drud. Gwêl tu hwnt i fyrdd o oesoedd, Gwêl hapusrwydd maith y nef Edrych ddengmil eto ‘mhellach, Digyfnewid byth yw ef; Tragwyddoldeb, Hwn sy’n eiddof fi fy hun. Anfeidroldeb maith […]
O! Gyfiawnder pur tragwyddol, O! Gyfiawnder maith di-drai – Rhaid i’m henaid noeth newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau: Rho dy wisg ddisgleirwen olau, Cudd fy noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr. William Williams (1717-1791) (Llawlyfr Moliant Newydd: 574)