Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]
Gwêl yma o’th flaen di fy nghalon yn glau, Fy Nuw, a wnei di dosturio, wnei di drugarhau? Golcha ‘mhechod du yn dy ddyfroedd pur, Ac mewn dydd o ras tyrd i’m llenwi i. Gyda chalon lân, Iôr, addolaf di, Gyda chalon lân, addolaf di. (Grym Mawl 2: 89) Trish Morgan: Lord, My heart before […]
Gwelaf yr Iôr ar ei orsedd fry – yn uchel; A godre ei wisg leinw’r deml â gogoniant: A’r ddaear sydd yn llawn, a’r ddaear sydd yn llawn, A’r ddaear sydd yn llawn o’th ogoniant. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, O, sanctaidd yw yr Iôr; Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, O, sanctaidd ydyw ef, yr Iôr; I […]
Pwy all ddal y moroedd yn ei law? Pwy all gyfri pob un gronyn baw? Daw brenhinoedd, crynant ger ei fron, Creadigaeth Duw yn dathlu’n llon. Hwn yw ein Duw ar ei orsedd fry! Deuwch ac addolwn! Hwn yw yr Iôr – Brenin yr holl fyd! Deuwch ac addolwn! Pwy all gynnig cyngor iddo ef? […]
Gwelwn Iesu Ar y groes yn diodde’n aberth yn ein lle – Profi grym marwolaeth ddu a’r bedd. Cododd eto’n fyw, ac aeth i’r nef! Nawr, gwelwn Iesu: Ar ddeheulaw Duw eisteddodd ‘lawr, Ac mae’n eiriol trosom ni yn awr. A’i air mae’n cynnal nef a daear lawr. Mor ogoneddus wyt! Disglair goncwerwr wyt! Fe […]
Gwir fab Duw, dyma ein cân o fawl. Iesu, ein Duw, canwn i ti. Tyred, Ysbryd ein Duw, Rho fywyd yn y geiriau hyn. Mae angylion y nef Yn canu ein cân o fawl. Fe’th folwn, fe’th folwn, Fe’th folwn, addolwn di. Fe’th folwn, addolwn di. Gwir Fab Duw, dyma ein cân serch. Iesu, ein […]
Gwŷr y ffydd, dewch codwch gân, Cenwch glod i’r Arglwydd glân; Os yn wan, cewch nerth y nef, Nid oes gwendid ynddo Ef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd, Cenwch i’r gwledydd i fyd: Iesu’r Gwaredwr yw Ef, Arglwydd daear a nef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd. Codwch wragedd yn y ffydd, Rhoddwch gân i lonni’r […]
Gyda thoriad gwawr y bore, O mor felys yw codi’n llef a llafar ganu, canu mawl i Dduw. Seinia adar mân y coedydd glod i’th enw mawr; una’r gwynt a’r môr i’th foli, Arglwydd nef a llawr. Dan dy adain dawel, esmwyth cawsom felys hun; yn ddianaf drwy yr hirnos cedwaist ni bob un. Ar […]
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. LITWRGI TRADDODIADOL O DDE AFFRICA o ganu GEORGE MXADANA O Sent by the Lord- Songs of the World Church 2 (Wild Goose Publications, 1991) (Caneuon Ffydd 60)
Haleliwia, can’s teyrnasa Hollalluog Dduw. Haleliwia, can’s teyrnasa’r Hollalluog Dduw. O llawenhawn ger ei fron A rhown ogoniant iddo Ef! Haleliwia, can’s teyrnasa’r Hollalluog Dduw. Dale Garratt (Hallellujah for the Lord our God) cyf. anad.© 1972 Sovereign Music UK (Grym Mawl 1: 46)