Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi, cyfoded lef i’n canlyn ni, i’r Arglwydd, Haleliwia; ti, danbaid haul, oleuni gwiw, di, arian loer o dirion liw, i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia! Fwyn ddaear-fam o ddydd i ddydd i ni sy’n rhoi bendithion rhydd, i’r Arglwydd, Halelwia; dy ffrwyth, dy flodau o bob rhyw, […]
Popeth gwerthfawr fu yn fy mywyd i, Popeth mae y byd yn brwydro i’w gael, Pethau’n elw fu, ‘nawr yn golled sydd; Gwastraff yw i gyd ers ennill Crist. Dy gael di, Iesu, gyda mi Yw’r trysor gorau sydd. Ti yw’m nod, ti yw’m rhan, Fy llawenydd i a’m cân, Ac fe’th garaf mwy. Un […]
Duw yn fy mywyd, wrth im anadlu Duw wrth im ddeffro, Duw wrth im gysgu Duw wrth im orffwys, ac wrth im weithio Duw wrth fy meddwl, Duw yn fy sgwrsio. Bydd yn bopeth im, bydd yn bopeth im Bydd yn bopeth im, bydd yn bopeth im. Duw wrth obeithio, ac wrth freuddwydio Duw pan […]
Prydferthwch dy wyneb yn syllu i ‘ngwyneb, Prydferthwch dy lygaid yn syllu i’m llygaid, Prydferthwch, prydferthwch, prydferthwch, Prydferthwch, prydferthwch, prydferthwch. Un peth, un peth a geisiaf. Un peth, un peth ddymunaf. Imi gael bod yn dy bresenoldeb di, Bod yn dy bresenoldeb di, Bod yn dy bresenoldeb di. (Ail-adrodd o ‘Imi…’) A syllu ar…… (Salm […]
Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur ac arian gwerthfawr; Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur, aur coeth. O Burwr dân, Tyrd, gwna fi yn lân, Tyrd, gwna fi’n sanctaidd Sanctaidd a phur i Ti Iôr. Dwi’n dewis bod yn Sanctaidd Wedi fy rhoi i Ti, fy Meistr; Parod i ufuddhau. Pura […]
Pwy a welodd ei ogoniant? Pwy all fyth amgyffred ei ras? Ryw ddydd ddaw fe wêl pob llygad Pawb a wêl ei wyneb ef. Fry i’r nef fe godwn ni A’n breichiau ni ar led, A llenwir ni bob un a’i ogoniant. A’n llygaid wêl ei harddwch ef Y dwyfol Frenin yw ef. Ie, ar […]
Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae Duw’n arlwyo gwledd, lle mae’r awel yn sancteiddrwydd, lle mae’r llwybrau oll yn hedd? Hyfryd fore y caf rodio’i phalmant aur. Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae pawb yn llon eu cân, neb yn flin ar fin afonydd y breswylfa lonydd lân? Gwaith a gorffwys […]
Pwy all beidio canu moliant iddo ef? Y mae Brenin Seion wedi dod i’r dref. Moliant, moliant, rhaid i blant roi moliant, moliant, moliant iddo ef, moliant iddo ef, moliant iddo ef. Taenu wnawn ein gwisgoedd gorau ar y ffyrdd, taflwn ar ei lwybrau gangau’r palmwydd gwyrdd. Ar ei ebol asyn O mor fwyn y […]
Pwy all blymio dyfnder gofid Duw ein Tad o weld ei fyd? Gweld y plant sy’n byw heb gariad, gweld sarhau ei gread drud: a phob fflam ddiffoddwyd gennym yn dyfnhau y nos o hyd; ein Tad, wrth Gymru, ein Tad, wrth Gymru, O trugarha! Gwnaethom frad â’r gwir a roddaist, buom driw i dduwiau […]
Pwy all ddirnad maint ei gariad ef A dirgelion arfaeth fawr y nef? Crist a ddaeth i farw yn ein lle Un waith am byth. Roedd yn Dduw cyn rhoddi bod i’r byd; Daeth fel Oen i farw’n aberth drud. Cariad mor fawr i gymodi’r byd Un waith am byth. Fe ganwn eto am ei […]