logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Noddfa

Pennill 1 Rwyf am fod yn deml ac am gadw drws Byddwn i yn gwneud beth bynnag fynni Di I fod wrth dy ymyl, Iôr Yma codaf allor, gweiddi d’enw Di Byddaf i yn rhoi beth bynnag fedraf roi I godi tŷ o fawl Corws Fy awydd i yw bod yn noddfa Yn un sy’n […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

O canwn ganig Bethlehem

O canwn ganig Bethlehem Am fugeiliaid wylient draw, Ac am y newydd gawsant hwy Gan engyl, er eu braw: Y golau gynt dros Fethlehem Lanwo’n hollfyd nawr; Fe gân yr engyl lu hyd byth Am eni Iesu mawr. O canwn ganig Nasareth Am lawen ddyddiau mad, Am bersawr blodau rif y gwlith Ac am ddi-bechod […]

  • Aled Davies,
  • June 10, 2026

O Dduw

Pennill 1 Er weithiau ‘mod i’n teimlo ar chwâl A’r daith yn aml yn unig Beth bynnag ddaw hyd at ddiwedd y ras Rhag-gorws O fe safaf i Lle mae d’obaith di O fe safaf i Lle mae d’obaith di Corws O Dduw, O Dduw mi wn ti’n clywed fy nghri Uwch yr holl g’lwyddau, […]

  • Aled Davies,
  • November 26, 2025

O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr

[Pennill 1] O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr Trysor mwyaf i fy enaid sych Fy Nuw, i Ti does neb yn debyg Ynot Ti yn unig mae mwynhad Dy ras, rhy ddwfn i ni ei blymio Dy serch, helaethach yw na’r nef Gwirionedd, ffynnon pob doethineb F’angen di-ddiwedd a fy ngorau i [Pennill 2] […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir

Yr Argyfwng Hinsawdd O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir a chynnyrch beunyddiol ei holl erwau ir, dy gread a’n geilw i newid ein ffyrdd a byw mewn ufudd-dod i ddeddfau byd gwyrdd. Wrth weled fforestydd yn wenfflam dros ddaer, allyriant ein bywyd yn llygru yr aer, a chnydau yn crino, cydnabod a wnawn […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

O Wele (Cân F’enaid Cân)

Pennill 1 O Wele galon Tad (Y) dirgelwch y mae’n tywallt arnom ni Fel cri y dwfn i’r dwfn O mor daer ei awydd trosom Mae pethau’r llawr o’i flaen Fel cannwyll ger yr haul Dad sy’n ddi-ffael S’dim fel ei gariad Ef Pennill 2 O Wele’i Sanctaidd Fab Y Llew a’r Oen a roddwyd […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

O Ysbryd Glân y bywiol Dduw

O Ysbryd Glân y bywiol Dduw, yn holl helaethrwydd mawr dy ras, ’mhle bynnag troediodd dynol ryw ymwêl â’n hil syrthiedig, fas. Tafodau tân a ch’lonnau cu rho i’n gyhoeddi’r Cymod rhad, eneiniad, grym a sêl ’ddi fry, bob tro y clywir Gair y Tad. Try’r fagddu’n llewyrch wrth it ddod a threfn o ddryswch, […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

O’n blaen mae Duw yn myned

O’n blaen mae Duw yn myned Â’i hyfryd bresenoldeb; O! ’r hyder ei addewid rydd Ac nid unig fyddwn byth. Hyd lwybrau, dan gysgodion Nid ofnwn am yfory Ar hyd bob cam, ffyddlondeb Iôr Fydd yn llewyrch ar ein ffordd O’n blaen mae Duw yn myned, Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed; Canmolwch Ef – ein […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

Pa gariad Dduw

Pennill 1 Pa gariad Dduw, a’th ddenodd di i lawr Pa frenin fynnai’i eni ar y llawr Ac eto daethost i le’r gwyll a’r braw A chysgu dan y sêr a wnaed â’th law Pennill 2 Pa gariad Dduw anfonodd Fab y Dyn I dderbyn gwarth, yn wrthodedig un I ti gael deall am fy […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 19, 2022

Pa Hyd y Cuddi Di? (Salm 13)

Pennill 1 O Arglwydd Dduw, down atat ti. Pam cuddio wnei dy wedd? Ein cri ddyrchafwn ac ar ein gliniau ‘r awn. Pa hyd y cuddi di? Pennill 2 Ein gwewyr sydd yn ein llesgau Ac ofnau sydd o’n cylch Trwy’n dagrau i’r nef, clyw di’n hym-biliau gwan. Pa hyd y cuddi di? Cytgan Nes […]

  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025