Dragwyddol, hollalluog Iôr, Creawdwr nef a llawr, O gwrando ar ein gweddi daer ar ran ein byd yn awr. O’r golud anchwiliadwy sydd yn nhrysorfeydd dy ras, diwalla reidiau teulu dyn dros ŵyneb daear las. Yn erbyn pob gormeswr cryf O cymer blaid y gwan; darostwng ben y balch i lawr a chod y tlawd […]
Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi ond dadlau rhin dy aberth di, a’th fod yn galw: clyw fy nghri, ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, ni thâl parhau i geisio cuddio unrhyw fai; ond gwaed y groes all fy nglanhau: ‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod. Dof fel yr wyf, […]
Dy garu di, O Dduw, dy garu di, yw ‘ngweddi tra bwyf byw, dy garu di; daearol yw fy mryd: O dyro nerth o hyd, a mwy o ras o hyd i’th garu di. Fy olaf weddi wan fo atat ti, am gael fy nwyn i’r lan i’th gartref di; pan fwyf yn gado’r byd, […]
Dilynaf fy Mugail drwy f’oes, er amarch a gw’radwydd y byd; a dygaf ei ddirmyg a’i groes, gan dynnu i’r nefoedd o hyd; mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe; nid rhyfedd os gwawdir y gwas, cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’. Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes – ei groes […]
Dal fi’n agos at yr Iesu er i hyn fod dan y groes; tra bwy’n byw ym myd y pechu canlyn dani bura f’oes; os daw gofid a thywyllwch, rho im argyhoeddiad llwyr – wedi’r nos a’r loes a’r trallod, bydd goleuni yn yr hwyr. Dysg im edrych i’r gorffennol, hyn a ladd fy ofnau […]
Dod ar fy mhen dy sanctaidd law, O dyner Fab y Dyn; mae gennyt fendith i rai bach fel yn dy oes dy hun. Wrth feddwl am dy gariad gynt o Fethlehem i’r groes mi garwn innau fod yn dda a byw er mwyn oes. Gwna fi yn addfwyn fel tydi wrth bawb o’r isel […]
Dywedwyd ganwaith na chawn fyw gan anghrediniaeth hy, ond ymddiriedaf yn fy Nuw: mae’r afael sicraf fry. Cyfamod Duw a’i arfaeth gref yn gadarn sydd o’m tu anghyfnewidiol ydyw ef: mae’r afael sicraf fry. Er beiau mawrion rif y dail a grym euogrwydd du Iawn ac eiriolaeth Crist yw’r sail: mae’r afael sicraf fry. Rhagluniaeth […]
Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn blant bach i’w freichiau ef ei hun: “Ac na waherddwch hwynt,” medd ef, “cans eiddynt hwy yw teyrnas nef.” O’n bodd dilynwn ninnau nawr esiampal gu yr Iesu mawr: pwy gaeai ddrws ei eglwys ef a’r Iesu’n agor drws y nef? THOMAS WILLIAMS, 1771-1845 (Caneuon Ffydd 642)
Dewch, ffyddlon rai, neséwch mewn hedd, mae yma wledd arbennig o basgedigion wedi eu trin, a gloyw win puredig. Amgylchwch heddiw’r sanctaidd fwrdd, cewch gwrdd â’ch Prynwr Iesu, a llawnder o gysuron da sydd yma i’ch croesawu. Rhag clwyfau enaid o bob rhyw gan Dduw cewch feddyginiaeth, a rhag gelynion cryfion, cas, drwy ras cewch […]
Dy alwad, Geidwad mwyn, mor daer a thyner yw: mae ynddi anorchfygol swyn, fy Mrenin wyt a’m Duw. Dilynaf, doed a ddêl, yn ôl dy gamre glân, a’m bedydd sydd yn gywir sêl cyfamod diwahân. Y drymaf groes i mi fydd mwy yn hawdd i’w dwyn wrth gofio’r groes i Galfarî a ddygaist er fy […]