O caned pawb o bedwar ban y byd, “Fy Nuw a’m Rhi!” Rhy uchel nid yw’r nef i eilio’i foliant ef: rhy isel nid yw’r llawr i chwyddo’r moliant mawr; O caned pawb o bedwar ban y byd, “Fy Nuw a’m Rhi!” O caned pawb o bedwar ban y byd, “Fy Nuw a’m Rhi!” Yr […]
O gariad pur, rhown iti glod, Creawdwr rhyfeddodau’r rhod, er maint gwrthryfel dynol-ryw drwy dy drugaredd fe gawn fyw: O cymer ni yn awr bob un i’n creu o newydd ar dy lun. Dy gread maith mewn gwewyr sydd yn disgwyl gwawr y newydd ddydd pan fyddo cariad wrth y llyw a phawb mewn cariad […]
O nefol Dad, y bythol ieuanc Dduw, erglyw ein llef ar ran ieuenctid byd, yng ngwanwyn oes a than gyfaredd byw, O tyn ni at dy Fab a’i antur ddrud. Rho inni wybod rhin a grym apêl a sêl ei fywyd pur a’i aberth llwyr, gan fentro nawr ei ddilyn, doed a ddêl, hyd union […]
O Grist, tydi yw’r ffordd at Dduw ein Tad, am dy ddatguddiad, diolchwn. Haleliwia! Amen. O Grist, y gwir am ystyr bod a byw, i ti’r Unigryw, plygwn. Haleliwia! Amen. O Grist, y bywyd llawn i bawb a gred, rho in ymddiried ynot. Haleliwia! Amen. O Grist, y drws i fyd dy hedd a’th ras, […]
Priodas O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn, ffynhonnell cariad gwir, ar addunedau’r oedfa hon tywynned golau clir. O derbyn di dy weision hyn a serch eu calon hwy, na ddeued oerwynt byth na brad i roddi iddynt glwy’. A fflam dy ddwyfol gariad mawr a welwyd ar y groes, i’w calon roddo sanctaidd wres a […]
O Iesu, mi addewais dy ddilyn drwy fy oes; bydd di yn fythol-agos, Waredwr mawr y groes: nid ofnaf sŵn y frwydyr os byddi di gerllaw; os byddi di’n arweinydd ni chrwydraf yma a thraw. Rho brofi dy gymdeithas; mor agos ydyw’r byd a’i demtasiynau cyfrwys yn ceisio denu ‘mryd; gelynion sydd yn agos o’m […]
O Grist, Ffisigwr mawr y byd, down atat â’n doluriau i gyd; nid oes na haint na chlwy’ na chur na chilia dan dy ddwylo pur. Down yn hyderus atat ti, ti wyddost am ein gwendid ni; gwellhad a geir ar glwyfau oes dan law y Gŵr fu ar y groes. Anadla arnom ni o’r […]
O tyred i’n gwaredu, Iesu da, fel cynt y daethost ar dy newydd wedd, a’r drysau ‘nghau, at rai dan ofnus bla, a’u cadarnhau â nerthol air dy hedd: llefara dy dangnefedd yma nawr a dangos inni greithiau d’aberth mawr. Yn d’aberth di mae’n gobaith ni o hyd, ni ddaw o’r ddaear ond llonyddwch brau; o […]
O’r fath geidwad rhyfeddol yw Iesu, O’r fath geidwad rhyfeddol i ni; Gan roi heibio ogoniant y nefoedd Daeth ei hun i’w groes ar Galfari. Cân Hosanna, cân Hosanna, Cân Hosanna rown i frenin nef: Cân Hosanna, Pêr Hosanna, Cân Hosanna iddo Ef. Atgyfoddodd o’r bedd, Haleliwia! A bydd yntau am byth yn fyw; Ar […]
Emyn Adfent O Waredwr mawr y ddaear Ganwyd gynt ym Methlem dref; Daw’r cenhedloedd oll i’th ganmol, Mab i Dduw sy’n blentyn Nef. Nid ewyllys dyn fu’th hanes Ond yn rodd i ni drwy ras, Cariad dwyfol yw dy anian Sanctaidd yw dy nefol dras. Dwyfol blentyn, tyrd i’n canol Fel y gallom weled Duw […]