O disgyn, Ysbryd Glân, o’r nefoedd wen i lawr i gynnau’r dwyfol dân yn ein calonnau nawr. Y ddawn a roddaist ti i’th Eglwys pan oedd wan a wnaeth ei gweiniaid hi yn wrol ar dy ran. O gael tafodau tân a phrofi’r nerthol wynt, anturiwn ninnau ‘mlaen fel dy ddisgyblion gynt. O’th garu tra […]
O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
Orchfygwr angau, henffych well! Pan ddrylliaist byrth y bedd ar ofnau dynion torrodd gwawr, anadlodd awel hedd. Gan iti ennill mwy na’r byd yn rhodd i’th annwyl rai, ym mhebyll Seion pâr yn awr i filoedd lawenhau. Rho heddiw i rai ofnus, hedd; y llwythog esmwythâ; o garchar pechod tyrfa fawr, i glod dy ras, […]
Os caf yr Iesu’n rhan o dan bob croes, a rhodio yn ei hedd hyd ddiwedd oes, anghofiaf boenau’r daith, pob gwaith fydd yn fwynhad; caf brofi’r hedd sydd fry yn nhŷ fy Nhad. Ond cael yr Iesu’n rhan daw’r cyfan im; pob bendith ynddo gaf, ni chollaf ddim: ni raid im fynd ar ôl […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
O maddau i ni, Dad pob llwyth, am fod mor fyddar cyd heb ddewis gwrando cwyn dy blant o warth y trydydd byd. At fyrddau ein neithiorau bras daw llef eu cythlwng hwy; meddala’n calon fel na wnawn eu diystyru mwy. Ni chawsant hwy na tho na thân yn gysur rhag yr hin, na chymorth […]
O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, galw ‘rwyf, ateb fi: O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, tyred, erglyw fy llef. CYMUNED TAIZÉ (O Lord hear my prayer), cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 799)
O rho dy fendith, nefol Dad, ar holl genhedloedd byd, i ddifa’r ofnau ymhob gwlad sy’n tarfu hedd o hyd; rhag dial gwyllt, rhag dyfais dyn, mewn cariad cadw ni a dyro inni’r ffydd a lŷn wrth dy gyfiawnder di. Rho i wirionedd heol glir drwy ddryswch blin yr oes, a chluded ffyrdd y môr […]
O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt, ein gobaith am a ddaw, ein lloches rhag ystormus wynt a’n bythol gartref draw. Cyn llunio’r bryniau o un rhyw, cyn gosod seiliau’r byd, o dragwyddoldeb ti wyt Dduw, parhei yr un o hyd. Mil o flynyddoedd iti sydd fel doe pan ddêl i ben neu wyliadwriaeth cyn […]
O Dduw, ein craig a’n noddfa, rho nawdd i’r gwan a’r tlawd er mwyn dy annwyl Iesu a anwyd inni’n Frawd; darostwng bob gormeswr sy’n mathru hawliau dyn, ac achub y trueiniaid a grewyd ar dy lun. Creawdwr cyrrau’r ddaear, Tad holl genhedloedd byd, cymoda di â’th gariad deyrnasoedd dyn ynghyd; gwasgara’r rhai rhyfelgar sy’n […]