logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O arwain fy enaid i’r dyfroedd

O arwain fy enaid i’r dyfroedd, y dyfroedd sy’n afon mor bur, dyfroedd sy’n torri fy syched er trymed fy nolur a’m cur; dyfroedd tragwyddol eu tarddiad, y dyfroedd heb waelod na thrai, dyfroedd sy’n golchi fy enaid er dued, er amled fy mai. Da iawn i bechadur fod afon a ylch yr aflanaf yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

O Iesu croeshoeliedig

O Iesu croeshoeliedig, Gwaredwr dynol-ryw, ti yw ein hunig obaith tra bôm ar dir y byw; dan feichiau o ofalon sy’n gwneud ein bron yn brudd mae d’enw, llawn diddanwch, yn troi ein nos yn ddydd. O Iesu croeshoeliedig, boed mawl i’th enw byth, doed dynion i’th foliannu rifedi’r bore wlith; aed sôn ymhell ac […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

O deued pob Cristion i Fethlem yr awron

O deued pob Cristion i Fethlem yr awron i weled mor dirion yw’n Duw; O ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod dragwyddol gyfamod i fyw: daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd er symud ein penyd a’n pwn; heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely, Nadolig fel hynny gadd hwn. Rhown glod […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015

O deuwch, ffyddloniaid

O deuwch, ffyddloniaid, oll dan orfoleddu, O deuwch, O deuwch i Fethlem dref: wele, fe anwyd Brenin yr angylion: O deuwch ac addolwn, O deuwch ac addolwn, O deuwch ac addolwn Grist o’r nef! O cenwch, angylion, cenwch, gorfoleddwch, O cenwch, chwi holl ddinasyddion y nef cenwch “Gogoniant i Dduw yn y goruchaf!” O deuwch […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015

Odlau tyner engyl

Odlau tyner engyl o’r ffurfafen glir, mwyn furmuron cariad hidlant dros y tir: yn y nef gogoniant, hedd i ddynol-ryw; ganwyd heddiw Geidwad, Crist yr Arglwydd yw! Yn y nef gogoniant, hedd i ddynol-ryw; ganwyd heddiw Geidwad, Crist yr Arglwydd yw! Doethion gwylaidd ddaethant gyda’i seren ef, holant yn addolgar ble mae Brenin nef? Saif […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015

O ddirgelwch mawr duwioldeb

O ddirgelwch mawr duwioldeb, Duw’n natur dyn; Tad a Brenin tragwyddoldeb yn natur dyn; o holl ryfeddodau’r nefoedd dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd, testun mawl diderfyn oesoedd, Duw’n natur dyn! Ar y ddaear bu’n ymdeithio ar agwedd gwas, heb un lle i orffwys ganddo, ar agwedd gwas: daeth, er mwyn ein cyfoethogi, o uchelder gwlad goleuni […]


O dawel ddinas Bethlehem

O dawel ddinas Bethlehem, o dan dy sêr di-ri’, ac awel fwyn Jwdea’n dwyn ei miwsig atat ti: daw heno seren newydd, dlos i wenu uwch dy ben, a chlywir cân angylion glân yn llifo drwy y nen. O dawel ddinas Bethlehem, bugeiliaid heno ddaw dros bant a bryn at breseb syn oddi ar y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 20, 2015

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu

O rho dy bwys ar freichiau’r Iesu, fe’th gynnal ymlaen, fe’th gynnal ymlaen; dy galon, wrth ymddiried ynddo, a leinw ef â chân. Pwysa ar ei fraich, (bythol) cred ei gariad mwyn, pwysa ar ei fraich (cans) arni cei dy ddwyn, pwysa ar ei fraich, (O mae) O mae nefol swyn wrth bwyso ar fraich […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015

O na chawn i olwg hyfryd

O na chawn i olwg hyfryd ar ei wedd, Dywysog bywyd; tegwch byd, a’i holl bleserau, yn ei ŵydd a lwyr ddiflannai. Melys odiaeth yw ei heddwch, anghymharol ei brydferthwch; ynddo’n rhyfedd cydlewyrcha dwyfol fawredd a mwyneidd-dra. Uchelderau mawr ei Dduwdod a dyfnderoedd ei ufudd-dod sy’n creu synnu fyth ar synnu yn nhrigolion gwlad goleuni. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

O na allwn garu’r Iesu

O na allwn garu’r Iesu yn fwy ffyddlon, a’i was’naethu; dweud yn dda mewn gair amdano, rhoi fy hun yn gwbwl iddo. RICHARD THOMAS, bl. 1821 (Caneuon Ffydd 355)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015