Y bore hwn, drwy buraf hedd, gwir sain gorfoledd sydd ymhlith bugeiliaid isel-fri, cyn torri gwawr y dydd. Gwrandawed pob pechadur gwan sy’n plygu dan ei bla, angylion nef, â’u llef yn llon yn dwyn newyddion da. I Fethlem Jwda, dyma’r dydd, daeth newydd da o’r nef, Duw ymddangosodd yn y cnawd, ein Brawd yn […]
Y mae in Waredwr, Iesu Grist Fab Duw, werthfawr Oen ei Dad, Meseia, sanctaidd, sanctaidd yw. Diolch, O Dad nefol, am ddanfon Crist i’n byd, a gadael dy Ysbryd Glân i’n harwain ni o hyd. Iesu fy Ngwaredwr, enw ucha’r nef, annwyl Fab ein Duw, Meseia ‘n aberth yn ein lle. Yna caf ei weled […]
Yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl, yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl, cân gorfoledd fyth na ellir difa’i grym, yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl. Dysgodd Iesu ni i fyw mewn harmonî, dysgodd Iesu ni i fyw mewn harmonî, holl genhedloedd daear lydan, gwnaeth ni’n un, llun a delw’r […]
Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr i geisio’i braidd drwy’r erchyll anial mawr; ei fywyd roes yn aberth yn eu lle, a’u crwydrad hwy ddialwyd arno fe. O’m crwydrad o baradwys daeth i’m hôl, yn dirion iawn fe’m dygodd yn ei gôl; ‘does neb a ŵyr ond ef, y Bugail mawr, pa […]
Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob eisteddodd gynt i lawr, tramwyodd drwy Samaria, tramwyed yma nawr; ‘roedd syched arno yno am gael eu hachub hwy, mae syched arno eto am achub llawer mwy. Mwy, mwy, am achub llawer mwy, mae syched arno eto am achub llawer mwy. Goleua’n meddwl ninnau I weld dy ddawn, O! Dduw, […]
Y mae trysorau gras yn llifo fel y môr, mae yn fy annwyl Frawd ryw gyfoeth mawr yn stôr: ymlaen yr af er dued wyf, mae digon yn ei farwol glwyf. Ni chollodd neb mo’r dydd a fentrodd arno ef, mae’n gwrando cwyn y gwan o ganol nef y nef: ac am fod Iesu’n eiriol […]
Yr Iesu a deyrnasa’n grwn o godiad haul hyd fachlud hwn; ei deyrnas â o fôr i fôr tra byddo llewyrch haul a lloer. Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith, i’w gariad rhoddant foliant maith; babanod ifainc, llon eu llef yn fore a’i clodforant ef. Lle y teyrnaso, bendith fydd; y caeth a naid o’i rwymau’n […]
Y nefoedd uwch fy mhen a dduodd fel y nos, heb haul na lleuad wen nac unrhyw seren dlos, a llym gyfiawnder oddi fry yn saethu mellt o’r cwmwl du. Er nad yw ‘nghnawd ond gwellt a’m hesgyrn ddim ond clai, mi ganaf yn y mellt, maddeuodd Duw fy mai: mae Craig yr oesoedd dan […]
Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod, ei enw fawrygwn tra byddwn yn bod: cyhoeddwn ei haeddiant a’i foliant di-fai; ei ras a’i ogoniant sy’n foroedd di-drai. Yr Arglwydd ddyrchafwn, efe yw ein rhan, ac ynddo gobeithiwn, mae’n gymorth i’r gwan: trwy’r ddaear a’r nefoedd ar gynnydd mae’r gân; ei ras drwy yr oesoedd wna luoedd […]
Ymgrymwn oll ynghyd i lawr gerbron gorseddfainc gras yn awr; â pharchus ofn addolwn Dduw; mae’n weddus iawn – awr weddi yw. Awr weddi yw, awr addas iawn i draethu cwynion calon lawn; gweddïau’r gwael efe a glyw yn awr yn wir – awr weddi yw. Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr yn ysbryd gras […]