Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw, mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw; ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’ i gofio pechadur na chofia dydi. Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad, tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had; tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn, tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf […]
Am brydferthwch daear lawr, am brydferthwch rhod y nen, am y cariad rhad bob awr sydd o’n cylch ac uwch ein pen, O Dduw graslon, dygwn ni aberth mawl i’th enw di. Am brydferthwch oriau’r dydd, am brydferthwch oriau’r nos, bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd, haul a lloer, pob seren dlos, O Dduw graslon, dygwn […]
Anfeidrol Dduw rhagluniaeth, a Thad y greadigaeth, coronaist eto’r flwyddyn hon â’th dirion ddoniau’n helaeth: ti Arglwydd pob daioni, beth mwy a dalwn iti na chydymostwng, lwch y llawr, yn awr i’th wir addoli? Na foed i’th drugareddau ddiferu ar ein llwybrau a ninnau’n fyddar ac yn fud o hyd i’th nef-rasusau; ein telyn, Iôr, […]
Am y llaw agored, raslon molwn heddiw Dduw y nef; mor ddiderfyn yw y rhoddion a gyfrennir ganddo ef! Ffyddlon yw y cariad dwyfol uwch trueni euog fyd, gyda llaw agored, dadol fyth yn llawn er rhoi o hyd. Llaw y Tad fu’n hulio’r ddaear gyda manna glân y nef, ninnau heddiw yn ddiolchgar roddwn […]
Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron, ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon; trwy blygion tywyll ei dyfodol hi, Arweinydd anffaeledig, arwain fi. Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith? Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith. Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw? Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law. Ffydd, gobaith, […]
Bendithiaist waith ein dwylo, coronaist lafur dyn, dy dirion drugareddau gyfrennaist i bob un; rhoist had yn llaw yr heuwr, rhoist i’r medelwr nerth i gasglu’r trugareddau sydd inni’n gymaint gwerth. Rheolaist y cymylau, y glaw, y gwynt a’r gwres; y ddaear gras a’r awyr dyneraist er ein lles: am lawnder dy fendithion heb ball […]
O Arglwydd Dduw rhagluniaeth ac iachawdwriaeth dyn, tydi sy’n llywodraethu y byd a’r nef dy hun; yn wyneb pob caledi y sydd neu eto ddaw, dod gadarn gymorth imi i lechu yn dy law. Er cryfed ydyw’r gwyntoedd a chedyrn donnau’r môr, doethineb ydyw’r Llywydd, a’i enw’n gadarn Iôr: er gwaethaf dilyw pechod a llygredd […]
Mawr ddyled arnom sydd i foli Iôr y nef, wrth weld o ddydd i ddydd mor dirion ydyw ef; ef yw ein Craig, ein tŵr a’n maeth; y flwyddyn hon ein cofio wnaeth. Ni all tafodau byw holl ddynol-ryw yn un fyth ddatgan gymaint yw ei gariad ef at ddyn; efe sy’n darpar, ar ei […]
I’r Arglwydd cenwch lafar glod a gwnewch ufudd-dod llawen fryd; dowch o flaen Duw â pheraidd dôn, drigolion daear fawr i gyd. Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod, nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni a defaid rhi’ ei borfa a’i nod. O ewch i’w […]
Arglwydd grasol, dy haelioni sy’n ymlifo drwy y byd, a’th drugaredd sy’n coroni dyddiau’r flwyddyn ar ei hyd: dy ddaioni leinw’r ddaear fawr i gyd. Rhoddi ‘rwyt dy drugareddau fel y golau glân bob dydd, a’th fendithion i’n hanheddau yn sirioli’n bywyd sydd: o’th gynteddau rhoddwn ninnau foliant rhydd. WATCYN WYN, 1844-1905 (Caneuon Ffydd 73)