Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw, sanctaidd yw yr Arglwydd hollalluog; sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw, sanctaidd yw yr Arglwydd hollalluog, ‘r hwn fu, ac sydd, ac eto i ddod, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw. Teilwng, teilwng, teilwng yw ein Duw, teilwng yw yr Arglwydd hollalluog; teilwng, teilwng, teilwng yw ein Duw, teilwng […]
Af i mewn i byrth fy Nuw â diolch yn fy nghalon i, af i mewn i’w gynteddau â mawl, a chyhoeddaf: “Hwn yw’r dydd a wnaeth ein Duw, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef!” Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef! Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, […]
Diolch i ti, yr hollalluog Dduw, am yr Efengyl sanctaidd. Haleliwia! Amen. Pan oeddem ni mewn carchar tywyll, du rhoist in oleuni nefol. Haleliwia! Amen. O aed, O aed yr hyfryd wawr ar led, goleued ddaear lydan! Haleliwia! Amen. Y SALMYDD CYMREIG, 1840, priodolir i DAVID CHARLES, 1762-1834 (Caneuon Ffydd 49)
Bendithia ni, Iachawdwr hael, cyn mynd yn awr o’r demel hon, a phâr i bawb o’th weision gael dy nefol hedd o dan eu bron; trwy oriau’n hoes, yn angau du, O Iesu da, bydd gyda ni. Aeth heibio’r dydd a’i oriau’n llwyr, a gwelaist, Iôr, bob peth a fu; ein mynych gwymp tydi a’i […]
Cariad Tri yn Un at yr euog ddyn, cariad heb ddechreuad arno, cariad heb ddim diwedd iddo; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Duw y Tad, rhoes ei Fab yn rhad a’i draddodi dros elynion i’w gwneud iddo yn gyfeillion; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Iesu […]
Cenwch i’r Arglwydd, cenwch i’r Arglwydd, Iôr ein hymwared ni yw; aed yn beraidd hyd y nef aberth moliant iddo ef, bendigedig fo’r Arglwydd, ein Duw. Moeswch i’r Arglwydd, moeswch i’r Arglwydd, moeswch ogoniant a nerth; o’u caethiwed, rhoed yn rhydd fyrdd o etifeddion ffydd, mawl i enw Preswylydd y berth. Molwch yr Arglwydd, molwch […]
Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]
Braint, braint yw cael cymdeithas gyda’r saint, na welodd neb erioed ei maint: ni ddaw un haint byth iddynt hwy; y mae’r gymdeithas yma’n gref, ond yn y nef hi fydd yn fwy. Daeth drwy ein Iesu glân a’i farwol glwy’ fendithion fyrdd, daw eto fwy: mae ynddo faith, ddiderfyn stôr; ni gawsom rai defnynnau […]
Rho dy fendith, Ysbryd Glân, yma’r awron; dyro di y bedydd tân yn ein calon; llanw ein heneidiau ni â sancteiddrwydd; gwna ni’n eiddo llwyr i ti, dyner Arglwydd. Cadw’n henaid i fwynhau gwenau’r Iesu; cadw’n calon i barhau fyth i’w garu; tywys ni yng ngolau’r nef i’r gwirionedd; dyro in ei feddwl ef a’i […]
Glân gerwbiaid a seraffiaid fyrdd o gylch yr orsedd fry mewn olynol seiniau dibaid canant fawl eu Harglwydd cu: “Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant, llawn yw’r ddaear, dir a môr; rhodder iti fythol foliant, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.” Fyth y nef a chwydda’r moliant, uwch yr etyb daear fyth: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,” meddant, “Dduw y […]