Wele’n dyfod ar y cwmwl Mawr yw’r enw sy iddo’n awr; Ar ei fraich ac ar ei forddwyd Ysgrifenwyd ef i lawr; Halelwia! Groeso, groeso, addfwyn Oen. Mil o filoedd, myrdd myrddiynau, O gwmpeini hardd eu gwedd, Welaf draw yn codi fyny I’w gyfarfod Ef o’r bedd: Darfu galar; Dyma iachawdwriaeth lawn. Nid oes yno […]
Cofia bob amser, cofia bob tro, paid ag anghofio dweud, “Diolch”. Cofia bob amser, cofia bob tro, cofia ddweud, “Diolch, Iôr.” Diolch am fwyd bob dydd, am ddillad twym, am ‘sgidiau cryf. Cytgan Diolch am iechyd da, am nerth i weithio a mwynhau. Cytgan Diolch am gartref clyd, am wres a chysur gawn bob dydd. […]
Samariad Trugarog, Luc 10: 25-37 Ar hyd y ffordd i Jericho Disgwyliai lladron cas Am berson unig ar ei daith Heb ots beth oedd ei dras. Gadawyd ef a golwg gwael I farw wrth y berth, Heb unrhyw un i drin ei friw Ac adfer peth o’i nerth. Aeth swyddog Teml heibio’r fan Aeth ar […]
Emyn Adfent O Waredwr mawr y ddaear Ganwyd gynt ym Methlem dref; Daw’r cenhedloedd oll i’th ganmol, Mab i Dduw sy’n blentyn Nef. Nid ewyllys dyn fu’th hanes Ond yn rodd i ni drwy ras, Cariad dwyfol yw dy anian Sanctaidd yw dy nefol dras. Dwyfol blentyn, tyrd i’n canol Fel y gallom weled Duw […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
Ioan 10 Iesu ti yw drws pob gobaith, Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw, Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau Er ein beiau, y cawn fyw. Fel y bu i’r defaid ddilyn Ôl dy droed, dros lwybrau maith, Credwn mai diogel fyddwn Er peryglon mwya’n taith. Ti yw bugail mawr y defaid, Sydd o hyd yn […]
Emyn ar gyfer Sul ‘Nôl i’r Eglwys’. Arglwydd Iesu, rhoist wahoddiad I drigolion byd i’th dŷ, Mae dy fwrdd yn llawn a helaeth O’r bendithion mwya sy’. Cofiwn iti wadd cyfeillion, A holl deithwyr ffyrdd y byd, I gyd-rannu o’th ddarpariaeth Ac i geisio byw ynghyd. Arglwydd Iesu, wele ninnau’n Derbyn dy wahoddiad di, Diolch […]
O Seren newydd, glaer, Disgleiria uwch ein byd, I arwain doethion dros y paith At frenin yn ei grud. O angel gwyn y nef, Tyrd eto, saf gerllaw, I ddweud am Iesu, baban Mair, Yn ninas Dafydd draw. O wylwyr pell y praidd, Nesewch i Fethlem dref, A phlygwch ger y preseb bach Lle mae […]
Dyma’r bore o lawenydd, Bore’r garol ar y bryn, Bore’r doethion a’r bugeiliaid Ar eu taith, O fore gwyn! Caned clychau I gyhoeddi’r newydd da. Dyma’r newydd gorfoleddus, Newydd ei Nadolig Ef, Gwawr yn torri, pawb yn moli Ar eu ffordd i Fethlem dref. Caned clychau I gyhoeddi’r newydd da. Dyma’r gobaith gwynfydedig, Gobaith i […]
Pwy sydd yn marw drosof fi Ar fryn y camwedd mawr, A grym maddeuant yn ei air Yn ing yr olaf awr? Cytgan: Yr Iesu yw, Eneiniog Duw, Yr anfonedig glân, Caf ynddo Ef orfoledd byw A rhin y dwyfol dân. Pwy sydd yn eiriol drosof fi, Bechadur gwael ei wedd, Gan ennill imi bardwn […]