Teilwng wyt ti! O Arglwydd Dduw I dderbyn ein mawl, ’Rwyt ti’n teyrnasu yn y nef, Haleliwia! lesu yw Arglwydd mawr y byd, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia! Cyf: anad. Worthy art Thou: Dave Richards © 1979 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music […]
Teilwng yw yr Oen sydd ar orsedd nef, Teilwng yw yr Oen laddwyd, Teilwng o’r gallu a chyfoeth, Doethineb a nerth, Nerth a gogoniant, anrhydedd a mawl, Byth bythoedd, byth bythoedd mwy! David J. Hadden: Worthy is the Lamb seated on the throne, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1983 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK […]
Teilwng, o teilwng ydwyt ti, Teilwng wyt o’r mawl a’r clod, Addoliad ’nghalon i. Teilwng, o teilwng ydwyt ti, Teilwng wyt o’r mawl a’r clod, Addoliad ’nghalon i. Canwn ‘Haleliwia, Werthfawr Oen ein Duw, Addolwn ac ymgrymwn, i ti dymunwn fyw. Haleliwia, clod a rown ynghyd, Ti’n fwy na choncwerwr Ti’n Arglwydd yr holl fyd.’ […]
Teilwng, mae Iesu’n deilwng, Mae ei weithredoedd ef yn gyfiawn ac yn dda. Addfwyn, mae Iesu’n addfwyn, Mae’n maddau beiau lu a’i gariad sy’n ddi-drai. Clodforaf nawr yr enw mwyaf un, Ymunwch i foli sanctaidd Fab y dyn. Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a fydd y gân, Tragwyddol a […]
Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Tu draw i ddeall dyn, Godidog wyt, Pwy all d’amgyffred? O, Arglwydd, ’does ond ti dy hun. Pwy a ddysg dy ryfedd ddoethineb? Pwy all blymio dy fawr gariad di? Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Frenin Mawr, ar d’orsedd fry. Ac yn syn, yn […]
Brenin y brenhinoedd yw, Teyrnasu’n gyfiawn mae ein Duw. Brenin y brenhinoedd yw, Ei Air sy’n cynnal popeth byw. Nerthol a grymus yw Duw’r gogoniant! Arglwydd yw Ef dros ddaer a nef! Arglwydd popeth byw, Dyrchafedig yw. John Sellers: You are crowned with many crowns, Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies Hawlfraint © 1984 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign […]
Ti yw y Brenin mawr, Y bywiol Air; Arglwydd y cread crwn, Ti yw yr un. Molaf d’enw di, Molaf d’enw di. Ti’r hollalluog Dduw, Rhyfeddol Fab; Cynghorwr, bythol fyw, Ti yw yr un. Molaf d’enw di, Molaf d’enw di. Ti yw Tywysog Hedd, Emaniwel; Y Tad tragwyddol wyt, Ti yw yr un. […]
Daethost i geisio a chadw pechaduriaid, Fe aethom ni oll ar goll, Fugail y defaid. Rwyt wedi paratoi gwledd, A’n galw ni’ mewn; Fel gelwaist ti ni, fe alwn eraill I ddod atat ti. Cans ti ydyw Arglwydd y c’nhaeaf; Ti sy’n rhoi’r tyfiant, dy eglwys y’m ni. Ti ydyw Arglwydd y c’nhaeaf, Rhoddaist ti […]
Wnest ti ddim disgwyl Dduw I mi ddod yn nes, Ond fe wisgaist ti dy hun Ym mreuder dyn. Wnest ti ddim disgwyl im alw arnat ti, Ond fe elwaist ti yn gyntaf arnaf fi. A bydda’ i’n ddiolchgar am byth, Bydda’ i’n ddiolchgar am y groes, Am it ddod i achub rhai coll Byddai’n […]
I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, ie, addolwn di. I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, ac addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Prynaist […]